Neidio i'r prif gynnwy

Ein Bwrdd

 

Cyfarfodydd y Bwrdd

 

Cyfarfod y Bwrdd
Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Iechyd yn cael ei gynnal ddydd Iau 27 Tachwedd 2025 am 10am yn yr Hyb, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant. Wrth i'r gwaith parhau yn yr Ysbyty, nodwch fod heriau parcio ceir ar hyn o bryd ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Bydd cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd yn cael eu cynnal yn gyhoeddus ac felly mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu’n wyneb yn wyneb i arsylwi’r cyfarfod.

Bydd cyfarfod y Bwrdd hefyd yn cael ei recordio a’i uwchlwytho i’n gwefan cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn arsylwi ein cyfarfod bwrdd cyhoeddus yn wyneb yn wyneb, gofynnwn i chi gofrestru eich diddordeb ymlaen llaw drwy gysylltu â ni ar CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk.

Os hoffech arsylwi unrhyw gyfarfod Bwrdd a bod angen cyfieithu ar y pryd yn y Gymraeg neu Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk a byddwn yn ymdrechu i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Gan y bydd y Bwrdd Iechyd yn 'cyfarfod yn gyhoeddus', mae'n bwysig nodi nad yw hyn gyfarfod i'r cyhoedd. Mewn cyfarfod i’r cyhoedd, gellir gofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfod, tra bod cwestiynau’n cael eu cymryd ar ôl cwblhau’r gwaith o ystyried yr holl eitemau ar yr agenda yn ystod cyfarfod cyhoeddus.

I'r perwyl hwn, rydym yn darparu cwestiynau ymlaen llaw hyd at dri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod, er mwyn caniatáu i ymatebion cywir gael eu darparu mewn modd amserol. Anfonwch unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda atom drwy e-bost at: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk. Bydd y cwestiynau yn cael eu hateb ar ddiwedd y cyfarfod.

Gall y Cadeirydd ddefnyddio ei ddisgresiwn wrth benderfynu a ddylid derbyn cwestiynau sy'n codi gan y cyhoedd ar ddiwrnod y cyfarfod. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r Bwrdd yn cadw’r hawl i ohirio darparu ymateb er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer gwirio a chywirdeb, fel arfer o fewn 7 diwrnod gwaith.

Gellir dod o hyd i’r agenda a’r papurau ar gyfer pob cyfarfod yma Papurau’r Bwrdd 2025 7 diwrnod cyn y cyfarfod.

 

 

Rydym yn ymwybodol nad yw’r dogfennau sydd wedi’u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â’r Safonau Hygyrchedd Digidol.  Os hoffech gael mynediad i fformat arall, cysylltwch â ni yn CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol yma;