Ysbyty’r Tywysog Siarl Y Gurnos Merthyr Tudful CF47 9DT |
Adrannau Brys a Mynediad at Wasanaethau Iechyd |
Rhif ffôn: 01685 721721
Cofiwch fod croeso i chi siarad Cymraeg gyda ni.
Hysbysiad Pwysig! Mae gwaith adnewyddu mawr yn digwydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ar hyn o bryd. Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw amhariad.
Byddwch yn ymwybodol bod gwaith mawr, hanfodol yn parhau ar safle Ysbyty'r Tywysog Siarl yn fewnol ac yn allanol. Pan fyddwch chi’n dod i'r ysbyty, ystyriwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhannu ceir neu ofyn am lifft i’ch apwyntiad.
Ar ôl rhai newidiadau diweddar, defnyddiwch fynediad 5 ar flaen yr ysbyty ar gyfer prif apwyntiadau cleifion allanol, Profion Gwaed Ffisiotherapi, Genau’r a’r Wyneb, Orthodonteg, Endosgopi ac Uned Ddydd Haematoleg. Mae mynediad 6 i'r ochr bell (isaf) o'r ysbyty ar gyfer Uned Mamolaeth, Cyn Geni, Beichiogrwydd Cynnar, Paediatreg, Therapi galwedigaethol, Cardio-pwlmonaidd, Diabetes, Niwroffisioleg, a Phodiatreg.
Os oes angen i chi barcio pan fyddwch chi’n dod i'r ysbyty, mae’n bosib y bydd angen i chi neilltuo amser ychwanegol i barcio eich car a dod o hyd i'r adran ar gyfer eich apwyntiad. Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn fod wedi ei achosi.