Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, iechyd ein cymunedau a'n staff yw ein blaenoriaeth gyntaf.
Ni chaniateir ysmygu yn ysbytai nac ar diroedd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Mae hyn yn golygu nad yw staff, cleifion nac ymwelwyr yn gallu ysmygu ar unrhyw un o safleoedd yr ysbyty ar draws ein Bwrdd Iechyd.
Ni chaniateir defnyddio sigaréts electronig na chynhyrchion ENDS mewn ardaloedd awyr agored neu dan do ar safleoedd y Bwrdd Iechyd, ac eithrio cleifion sy'n oedolion mewn unedau iechyd meddwl, sy’n cael defnyddio sigaréts electronig tafladwy mewn ardaloedd dynodedig.
Ers1 Mawrth 2021, mae holl dir ysbytai Cymru wedi bod yn llefydd di-fwg. Mae deddfwriaeth ddi-fwg yn golygu ei bod hi'n anghyfreithlon i ysmygu ar dir ysbytai a gallai ysmygu mewn lle di-fwg arwain at Rybudd Cosb Benodedig o £100.
Bydd atal pobl rhag ysmygu ar dir ein hysbytai yn hyrwyddo mannau gofal iachach, yn amddiffyn defnyddwyr ysbytai rhag mwg ail-law niweidiol ac yn cefnogi'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG i roi'r gorau iddi.
'Helpa Fi i Stopio' yw'r pwynt mynediad unigol ar gyfer holl wasanaethau'r GIG ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu ledled Cymru.
Yn ôl amcangyfrifon, byddai dwy ran o dair o ysmygwyr yn hoffi rhoi'r gorau iddi, ac rydych bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu drwy gyfuno help gan wasanaeth cymorth arbenigol y GIG gyda meddyginiaeth stopio ysmygu. Mae gwasanaethau ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu sydd ar gael o Helpa Fi i Stopio yn cynnwys Dim Smygu Cymru, y fferyllfa a gwasanaethau ysbyty.
Math o gefnogaeth sydd ar gael
Pan fyddwch chi'n penderfynu rhoi'r gorau i ysmygu, does dim rhaid i chi wneud hynny ar eich pen eich hun. Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Helpa Fi i Stopio: