Rydym yn y camau olaf o ddiweddaru ein polisi ymweld - caiff y dudalen hon ei diweddaru cyn gynted ag y bydd ar gael.
Amseroedd Ymweld Presennol
Mae amseroedd ymweld yn amrywio ar draws ein hysbytai ar hyn o bryd. Cysylltwch â'r ward lle mae eich perthynas/anwyliaid yn aros i gael arweiniad. Ar gyfer Mamolaeth neu Ofal Critigol, darllenwch y canllawiau isod:
Gofal Critigol
Gweler y wybodaeth isod ar gyfer mynd gyda chleifion i’r Adran Argyfwng neu apwyntiad claf allanol.
Mynd gyda chleifion i Adran Argyfwng
Mae ein Hadrannau Argyfwng yn arbennig o brysur. Am y rheswm hwn, os oes angen i glaf gael ei gyfeilio, dylai hyn fod gan un person arall yn unig i atal gorlenwi. Ar gyfer unrhyw geisiadau y tu allan i'r canllawiau hyn, siaradwch ag aelod o staff.
Mynd gyda'ch anwylyd i apwyntiad claf allanol
Os ydych yn mynychu apwyntiad (cleifion allanol, diagnosteg neu glaf allanol dydd) gallwch ddod ag un neu ddau o bobl gyda chi os ydych am gael rhywun gyda chi.