Cydlynydd Lles ac Addysg
Cydlynydd Lles ac Addysg
Mae gan Olivia radd yn y celfyddydau ac mae hi wedi dysgu celf a ffotograffiaeth yn y sector uwchradd am y 4 blynedd diwethaf.
Roedd Olivia hefyd yn hyfforddwr dysgu ac yn hyrwyddwr Vespa, lle datblygodd hi raglen hyfforddi i wella gweledigaeth, ymdrech, agwedd a systemau disgyblion.
Mae Olivia wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau ac elusennau trwy gydol ei gradd meistr mewn celf, y gofod a natur, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Olivia wedi hybu ymwybyddiaeth o ddarpariaethau iechyd meddwl, clefyd Alzheimer a’r celfyddydau mewn gofal iechyd, ac mae hi’n frwdfrydig dros y ffyrdd mae’r celfyddydau’n gallu effeithio ar les a’i wella.
Mae Olivia yn angerddol am addysg, dysgu, lles, iechyd cyfannol a gweithio gyda phobl. Y tu hwnt i'r gwaith, mae Olivia wedi teithio i Japan i arddangos ei gwaith celf.
Mae Hyfforddwyr Lles WISE wedi cwblhau amrywiaeth o sesiynau hyfforddiant arbenigol a phenodol er mwyn rhoi’r cymorth gorau posib i gleifion ein gwasanaeth. Mae hyfforddiant Olivia i’w weld isod:
I gysylltu â'ch hyfforddwr WISE, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk