Neidio i'r prif gynnwy
Kerry

Cydlynydd Lles ac Addysg

Amdanaf i

Cydlynydd Lles ac Addysg

Mae Kerry wedi gweithio i’r GIG ers 2014 mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys gweinyddwr a chynorthwyydd prosiectau, cyn iddi gael rôl Cydlynydd Lles ac Addysg.

Mae gan Kerry brofiad o hwyluso newid a hyfforddiant, yn ogystal â gweithio yn y gymuned gyda'r genhedlaeth hŷn. 

Mae Kerry yn frwdfrydig dros bobl, iechyd a lles yn gyffredinol, ac mae rôl y Cydlynydd Lles ac Addysg yn cwmpasu'r holl feysydd allweddol hynny’n berffaith. 

Mae Kerry yn mwynhau teithio dramor ac mae hi wedi bod yn ddigon ffodus i deithio i lawer o leoedd ledled y byd.

Mae Hyfforddwyr Lles WISE wedi cwblhau amrywiaeth o sesiynau hyfforddiant arbenigol a phenodol er mwyn rhoi’r cymorth gorau posib i gleifion ein gwasanaeth. Mae hyfforddiant Kerry i’w weld isod: 

  • Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP)
  • Rhaglen Hunan-reoli Afiechyd Cronig
  • Rhaglen Hunan-reoli Poen Gronig
  • Sgiliau Maeth am Oes Iechyd Cyhoeddus Cymru – Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 
  • Rhaglen Atal Clefyd Cardiofasgwlar Momenta (CVD)
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC)

I gysylltu â'ch hyfforddwr WISE, e-bostiwch: CTM.WISE@wales.nhs.uk


Dychwelyd at Proffiliau'r Hyfforddwyr Lles