Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwasanaeth

Mae WISE yn dilyn dull meddygaeth ffordd o fyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth, lle mae grymuso cleifion yn sail i’r gwasanaeth ac yn cefnogi newid ymddygiad trwy dechnegau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i wella lles meddyliol a chorfforol.

Trwy raglen addysg barhaus, nod WISE yw galluogi cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio i ddeall yn well achosion sylfaenol eu cyflyrau meddygol presennol a dewis ymddygiadau ffordd o fyw sy'n gwella’u hiechyd hirdymor, yn ogystal â sicrhau ansawdd bywyd gwell gyda llai o faich symptomau.

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE


Gall unrhyw berson dros 18 oed sydd â chyflwr neu symptom iechyd cronig neu ar restr aros y GIG, ymuno â gwasanaeth WISE drwy'r broses atgyfeirio clinigol draddodiadol (trwy weithiwr iechyd proffesiynol) neu drwy hunan gyfeirio eu atgyfeiriad ar wefan WISE.

Gall cleifion gael eu hatgyfeirio gan eu Hymgynghorydd, eu practis meddyg teulu, gweithwyr iechyd proffesiynol, hunan-atgyfeirio, neu gysylltydd cymdeithasol. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynyddu'r cyfle i gyflyrau eraill dros y misoedd nesaf i gynnig y cymorth atal a lles allweddol hwn.

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Hyfforddwyr Lles

Mae gwasanaeth WISE yn cael ei ddarparu drwy Hyfforddwyr Lles sydd wedi’u hyfforddi’n drwyadl a’i gefnogi gan dîm gwirfoddolwyr y Bwrdd Iechyd, sy’n allweddol i weithredu a datblygu cymorth rhwng cymheiriaid. Cefnogir y gwasanaeth gan Gydlynydd Lles Cymunedol a thri meddyg meddygaeth ffordd o fyw.

Offer Iechyd Digidol

Bydd cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio at WISE yn cael mynediad personol wedi’i deilwra at amrywiol raglenni presgripsiynu cymdeithasol gofal iechyd digidol a llyfrgelloedd iechyd digidol. Mae'r rhaglenni meddalwedd hyn yn helpu tîm WISE i gael gwell dealltwriaeth o'r cleifion a atgyfeiriwyd a'u canlyniadau mewn ffordd unigryw.

Partneriaethau Trydydd Sector

Bydd WISE yn ymgysylltu â’r gymuned trwy sefydliadau trydydd sector a busnesau lleol dethol i gyflwyno amrywiaeth o weithdai sy’n canolbwyntio ar y claf i annog cleifion i fabwysiadu ffordd iachach o fyw.