Anaml y bydd gan bwysedd gwaed uchel, neu orbwysedd, symptomau amlwg. Ond os na chaiff ei drin, mae'n cynyddu eich risg o gael problemau difrifol fel trawiad ar y galon a strôc.
Mae tua thraean o oedolion yn y DU â pwysedd gwaed uchel, er na fydd llawer yn sylweddoli hynny. Yr unig ffordd o wybod a yw eich pwysedd gwaed yn uchel yw cael eich pwysedd gwaed wedi'i fesur.
Beth yw pwysedd gwaed uchel?
Caiff pwysedd gwaed ei fesur gyda dau rif. Y pwysedd systolig (rhif uchaf) yw'r grym wrth i'ch calon bwmpio gwaed o amgylch eich corff.
Mae pwysedd diastolig (rhif isaf) yn dynodi'r gwrthsefyll i lif y gwaed yn y gwaedlestri. Caiff y ddau eu mesur mewn milimedrau mercwri (mmHg).
Fel canllaw cyffredinol:
Gallai darlleniadau pwysedd gwaed rhwng 120/80mmHg a 140/90mmHg olygu eich bod mewn perygl o ddatblygu pwysedd gwaed uchel os nad ydych yn cymryd camau i gadw eich pwysedd gwaed dan reolaeth.
Risgiau pwysedd gwaed uchel
Os yw eich pwysedd gwaed yn rhy uchel, mae'n rhoi straen ychwanegol ar eich gwaedlestri, eich calon ac organau eraill, fel yr ymennydd, yr arennau a'r llygaid.
Gall pwysedd gwaed uchel parhaus gynyddu eich risg o gael nifer o gyflyrau difrifol a chyflyrau a allai fygwth bywyd, fel:
Os oes gennych bwysedd gwaed uchel, gall hyd yn oed ei leihau ychydig helpu i leihau eich risg o ddatblygu'r cyflyrau hyn.
Gwiriwch eich pwysedd gwaed
Yr unig ffordd o wybod p'un a oes gennych bwysedd gwaed uchel yw cael prawf pwysedd gwaed.
Cynghorir pob oedolyn dros 40 oed i gael prawf pwysedd gwaed o leiaf bob pum mlynedd. Mae gwneud y prawf yn hawdd, a gallai arbed eich bywyd.
Gallwch gael prawf pwysedd gwaed mewn nifer o leoedd, gan gynnwys:
Gallwch wirio eich pwysedd gwaed eich hun hefyd gyda monitor pwysedd gwaed cartref.
Achosion pwysedd gwaed uchel
Yn aml, nid oes unrhyw beth amlwg yn achosi pwysedd gwaed uchel, ond gall rhai pethau gynyddu eich risg.
Mae gennych risg uwch o fod â phwysedd gwaed uchel:
Gall gwneud newidiadau i ffordd iach o fyw leihau eich siawns o gael pwysedd gwaed uchel, a helpu i ostwng eich pwysedd gwaed os yw'n uchel yn barod.
Ffordd o fyw yn newid er mwyn lleihau pwysedd gwaed
Gall y newidiadau canlynol i'ch ffordd o fyw helpu i atal pwysedd gwaed uchel a gostwng pwysedd gwaed uchel.
Gall fod angen i rai pobl sydd â phwysedd gwaed uchel gymryd un neu fwy o feddyginiaethau hefyd i atal eu pwysedd gwaed rhag mynd yn rhy uchel.
I gael rhagor o wybodaeth am Pwysedd Gwaed Uchels, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm