Neidio i'r prif gynnwy

Archwiliad Iechyd

Maeth A Moddion

Cydweithio i wella eich iechyd. Cael eich Gwiriad Iechyd rhad ac am ddim a byddwch yn fwy parod ar gyfer y dyfodol ac yn gallu cymryd camau i gynnal neu wella eich iechyd.

Pam fod angen Gwiriad Iechyd arna i?

Rydyn ni’n gwybod bod eich risg o ddatblygu clefyd y galon, strôc a Diabetes Math 2 yn cynyddu gydag oedran.
Mae yna hefyd rai risgiau a fydd yn eich rhoi mewn mwy fyth o risg.

  • Ddim yn gwneud ymarfer corff 
  • Ddim yn bwyta'n iach 
  • Ysmygu
  • Yfed gormod o alcohol
  • Pwysedd gwaed uchel
  • Colesterol uchel

Gall dynion a menywod ddatblygu'r cyflyrau hyn a gallai cael un gynyddu eich risg o ddatblygu un arall yn y dyfodol.

  • Yn yr ymennydd gall rhydweli wedi'i blocio neu waedu achosi strôc.
  • Yn y galon gall rhydweli wedi’i blocio achosi trawiad ar y galon neu angina.
  • Gall yr arennau gael eu niweidio gan bwysedd gwaed uchel neu ddiabetes, gan achosi clefyd cronig yn yr arennau a chynyddu eich risg o gael trawiad ar y galon.
  • Gall bod dros bwysau a diffyg ymarfer corff arwain at Ddiabetes Math 2.
  • Os na chaiff ei adnabod neu os na chaiff ei reoli, gallai Diabetes Math 2 gynyddu eich risg o broblemau iechyd pellach, gan gynnwys clefyd y galon, clefyd yr arennau a strôc.

Oes na unrhyw beth i boeni amdano?

Mae gan y Gwiriad Iechyd y potensial i leihau eich siawns o ddatblygu cyflyrau penodol, ac mae llawer o bobl yn ei weld yn fuddiol.

Fodd bynnag, eich dewis chi yw a fyddwch chi'n derbyn y cynnig o Wiriad Iechyd am ddim ai peidio.

Efallai y bydd rhai pobl yn poeni am y gwiriad ac effaith y canlyniadau ar eu ffordd o fyw. Os oes gennych unrhyw bryderon, gallwch eu trafod pan fyddwch yn dod i'ch gwiriad.

Hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n dda, mae'n werth cael eich Gwirida lechyd nawr.
Yna gallwn weithio gyda chi i leihau eicch siawns o ddatblygu'r problemau iechyd hyn yn y dyfodol.


Beth sy'n digwydd yn y gwiriad?

Mae’r gwiriad hwn yw i asesu eich risg o ddatblygu clefyd y galon, Diabetes Math 2, clefyd yr arennau a strôc.

  • Bydd y gwiriad yn cymryd tua 30-40 munud.
  • Bydd cwestiynau ffordd o fyw yn cael eu gofyn i chi. Er enghraifft, am eich hanes teuluol a dewisiadau a allai roi eich iechyd mewn perygl.
  • Byddwn yn cofnodi eich taldra, pwysau, oedran, rhyw ac ethnigrwydd.
  • Byddwn yn gwirio eich pwysedd gwaed.
  • Byddwn yn defnyddio sampl gwaed pigiad bys i brofi eich Colesterol a'ch Gwaed.

Beth sy'n digwydd ar ôl y gwiriad?

Byddwn yn trafod sut y gallwch leihau eich risg ac aros yn iach.

  • Bydd eich canlyniadau yn cael eu trafod a byddwn ni'n rhoi gwybod beth maen nhw'n ei olygu. Efallai bydd rhai pobl yn cael eu gofyn i ddychwelyd yn ddiweddarach ar gyfer eu canlyniadau.
  • Byddwch yn cael cyngor personol ar sut i leihau eich risg a chynnal ffordd iach o fyw.
  • Efallai y bydd angen i rai pobl gael prawf gwaed arall i wirio am Ddiabetes Math 2. Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn gallu dweud mwy wrthych.
  • Gall eich meddyg teulu roi triniaeth neu feddyginiaeth ar bresgripsiwn i'ch helpu i gynnal eich iechyd.
  • Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am wasanaethau neu grwpiau y gallwch gael mynediad iddyn nhw’n eich ardal leol, i'ch helpu i gynnal ffordd iach o fyw.

Cwestiynau a allai fod gennych?