Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty'r Tywysog Siarl yn agor Mynedfa Newydd 4

Mae Mynedfa 4 newydd sbon Ysbyty'r Tywysog Siarl bellach wedi'i chwblhau ac ar agor i'w defnyddio gan y cyhoedd.  

Mae adnewyddu Mynedfa 4 yn ffurfio rhan ddiweddaraf Ail Gam rhaglen adnewyddu'r Ysbyty sydd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gwerth £264 miliwn a ddechreuodd yn ôl yn 2017.  

Roedd Cam Un yn cynnwys buddsoddiad o £44 miliwn mewn seilwaith newydd ar gyfer yr Ysbyty, creu cegin, bwyty a fferyllfa newydd.  

Bydd y Fynedfa 4 newydd yn bennaf yn gwasanaethu llif cleifion ac ymwelwyr i'r ysbyty ar gyfer y gwasanaethau canlynol: 

  • Wardiau 1-12 

  • Uned Gofal Dwys 

  • Radioleg 

  • Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau 

 

Dywedodd Bill Rogers (Cyfarwyddwr y Rhaglen): “Rydym wrth ein bodd yn agor Mynedfa 4 yn ffurfiol, a gweld trosglwyddiad allweddol arall yn ein rhaglen o welliannau yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Mae agor Mynedfa 4 yn nodi'r newid hollbwysig diweddaraf yn y gwelliannau a gynlluniwyd, ac rydym wedi cymryd camau sylweddol ymlaen ers dechrau'r flwyddyn hon.  

“Hoffwn ddiolch i’r tîm Prosiectau Mawr cyfan, a phawb o’n tîm adeiladu yn Tilbury Douglas am ein helpu i gyrraedd a chyflawni’r garreg filltir ddiweddaraf hon. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl staff a chleifion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl am eu hyblygrwydd, eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus yn ystod y rhaglen hon o welliannau mawr.” 

08/07/2025