Mae ymwelydd iechyd, a hyfforddodd tra oedd yn derbyn triniaeth am ganser y fron a gofalu am ei theulu, wedi derbyn gwobr Cyflawniad Eithriadol gan Sefydliad Nyrsio’r Frenhines.
Gwobrwywyd Kelly Howell â Gwobr Goffa Dora Roylance 2020 am Gyflawniad Eithriadol fel Myfyrwraig Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd, ar ôl cael llawdriniaeth, gweithio trwy gyfyngiadau COVID-19 a gofalu am ei phlant sydd rhwng 10 ac 18 oed.
Cafodd Kelly ei henwebu am y wobr gan yr Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru ac arweinydd cwrs, Michelle Thomas. Dywedodd Michelle: “Gwnaeth Kelly argraff ar dîm y cwrs pan wnaethon ni gwrdd â hi am y tro cyntaf yn y cyfweliad. Mae’n fyfyrwraig ragorol ac roedd wedi gwneud cynnydd da gyda’i hastudiaethau i fod yn Ymwelydd Iechyd cyn mynd yn dost gyda chanser y fron. Er gwaethaf hyn, gweithiodd Kelly yn galed ar ei lleoliad a thuag at ei hasesiadau theoretig hyd at gyfnodau hwyr ei thriniaeth, a rhoddodd y gorau i astudio am gyfnod yn fuan ei llawdriniaeth.
“Trwy gydol y cyfnod hwn, roedd Kelly a fi wedi cadw mewn cysylltiad ac roedd hi bob tro yn berson positif. A hithau’n fam ifanc i bedwar o blant ac yn wraig, mae Kelly wedi ymdopi’n arbennig o dda â gofynion ei chwrs, ei salwch, ei thriniaeth a’i llawdriniaeth, ac roedd wedi ymdopi’n dda hefyd wrth ddychwelyd ar gyfer ei hymarfer cyfnerthedig.”
 chymorth gan ei hathrawes ymarfer Debbie Lewis, aeth Kelly ati i ailafael yn ei hastudiaethau, a llwyddodd i ddelio â baich achosion ysgafn tra oedd yn cael triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre. Er gwaethaf y cyfyngiadau oherwydd COVID-19, llwyddodd Kelly i gwblhau ei hymarfer cyfnerthedig yng Nghlinig Carnegie yn Nhrealaw a chymhwyso’n Ymwelydd Iechyd ym mis Ebrill.
Ychwanegodd Mrs Thomas: “Rydw i’n enwebu Kelly am ei bod yn codi calon pawb yr eiliad mae’n cerdded i mewn i’r ystafell, mae agwedd bositif iawn gyda hi ac mae wedi ymdopi’n wych â phob un rhwystr y mae wedi ei hwynebu yn ystod ei hastudiaethau.”
Dywedodd Kelly: “Rydw i’n mwynhau fy rôl newydd fel Ymwelydd Iechyd yn fawr; mae’n rôl sy’n newid bob dydd oherwydd y sefyllfa sydd ohoni. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael cymorth rhagorol trwy gydol fy astudiaethau gan Michelle Thomas ym Mhrifysgol De Cymru, yr athrawes ymarfer clinigol Debbie Lewis a gan ffrindiau a chydweithwyr ar hyd y daith.
“Mae’r cymorth rhagorol hwn wedi parhau a finnau bellach yn gweithio fel Ymwelydd Iechyd cymwysedig. Wrth wynebu adegau heriol yn eich bywyd personol, mae’r cymorth a’r anogaeth yn eich helpu i deimlo eich bod yn werthfawr; bellach, mae’n bryd i fi roi rhywbeth yn ôl a chyfrannu’n hael at fy rôl a fy nhîm, a helpu teuluoedd gymaint â phosibl ar yr adeg anodd iawn hon.”
Derbyniodd Kelly ei gwobr mewn seremoni ar lein lle roedd ystod o siaradwyr gwadd wedi eu gwahodd. “Roedd y seremoni’n wych, ac roedd yn hyfryd gweld yr amrywiaeth o wobrau oedd yn cael eu rhoi”, ychwanegodd hi.