Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â CTM i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2025

Heddiw (dydd Llun 12 Mai), mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn ymuno â'r dathliadau byd-eang i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, a thema eleni yw "Mae gofalu am nyrsys yn cryfhau economïau". 

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn gyfle i gydnabod gwaith, ymroddiad a sgiliau anhygoel nyrsys a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ledled y byd. 

Rydym yn hynod falch o’n timau nyrsio a bydwreigiaeth amrywiol yn CTM, ac yn gwerthfawrogi popeth y maen nhw’n ei wneud dros ein cleifion a’n cymunedau, bob dydd, yn ein hysbytai ac ar draws cymunedau. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nyrsys BIP Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddarparu’r gofal iechyd gorau posibl i aelodau ein cymuned, ac fel bwrdd iechyd, rydym wedi bod yn falch iawn o weld llawer o’n staff nyrsio yn cael eu cydnabod am eu cyflawniadau. 

Dywedodd Greg Dix, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion: “Hoffwn ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys hapus iawn i’n holl nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd gwych sy’n gweithio ar draws ein safleoedd acíwt a chymunedol. Mae'r dathliad hwn yn gyfle anhygoel i gydnabod gwaith, ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ein timau nyrsio ar draws ein bwrdd iechyd i ofalu am ein cleifion, a'u teuluoedd, bob dydd.”   

Dyma gip yn ôl ar rai o’n huchafbwyntiau o 2024/2025:  

Enillodd Sarah Parry, Nyrs Iechyd Cyhoeddus Arbenigol yn y Gymuned (SCPHN)/Ymwelydd Iechyd y lle cyntaf ar gyfer ei chyflwyniad llafar yng Nghynhadledd Ymchwil a Datblygu CTM 2024 

https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/enillwyr-poster-a-chyflwyniad-cynhadledd-ymchwil-a-datblygu-bip-ctm-2024/  

Anrhydeddwyd Mandie Welch (Nyrs Arbenigol Methiant y Galon) o CTM â Gwobr Genedlaethol “Pumping Marvellous Foundation” 

https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/mandie-welch-o-ctm-yn-cael-ei-hanrhydeddu-a-gwobr-genedlaethol-pumping-marvellous-foundation/  

Claire Norman (Uwch-nyrs Gwasanaethau Arbenigol) o Gwm Taf Morgannwg yn cael Teitl Nyrs y Frenhines mawreddog 

https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/derbyniodd-claire-norman-o-ctm-deitl-nyrs-y-frenhines-o-fri/  

Mae Victoria Hughes a Corinna McNeil yn ddwy Nyrs Arbenigol sydd wedi bod yn cefnogi ac yn hyrwyddo rhoi organau. 

https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/wythnos-rhoi-organau-staff-bwrdd-iechyd-prifysgol-cwm-taf-morgannwg/  

Creodd Lowri Impey waith celf tanddwr gan ddefnyddio plastig wedi'i ailgylchu 

https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/nyrs-ctm-yn-creu-gwaith-celf-tanddwr-gan-ddefnyddio-plastig-wedii-ailgylchu/  

Anrhydeddwyd Lloyd Griffiths (Pennaeth Nyrsio Iechyd Meddwl) a Deborah Matthews (Pennaeth Nyrsio) gyda gwahoddiad i Barti Gardd Brenhinol ym Mhalas Buckingham.  

https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/gwahoddiadau-parti-gardd-frenhinol-i-anrhydeddu-staff-bip-cwm-taf-morgannwg/  

Cafodd Tîm Nyrsio Ardal y Gogledd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei enwi yn rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2024. 

https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/tim-nyrsio-bip-cwm-taf-morgannwg-yn-cyrraedd-rownd-derfynol-gwobrau-student-nursing-times/  

Diolch yn fawr iawn, a llongyfarchiadau unwaith eto, i'n holl nyrsys a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd gwych. 

Cydweithrediad Parkrun arbennig – Dydd Sadwrn 17 Mai 

Rydym yn falch o gyhoeddi cydweithrediad cyffrous rhwng BIPCTM a Parkrun ddydd Sadwrn, Mai 17, wrth i ni ymuno gyda'n gilydd i ddathlu'r nyrsys, gweithwyr cymorth gofal iechyd a bydwragedd anhygoel sy'n gofalu am ein cymunedau bob dydd. 
  

Bydd nifer o Parkruns/teithiau cerdded lleol ar draws y rhanbarth yn cysegru eu digwyddiadau ddydd Sadwrn 17 Mai i anrhydeddu’r gweithwyr proffesiynol ymroddedig hyn. Bydd y rhain yn cynnwys: 

Gadewch i ni ddod at ein gilydd i ddangos ein gwerthfawrogiad a'n cefnogaeth mewn ffordd fywiog, egnïol! 

 

Rhannwch eich gwerthfawrogiad  
  

Os oes nyrs arbennig neu weithiwr cymorth gofal iechyd wedi gofalu amdanoch chi neu'ch anwyliaid, a hoffech chi ddweud diolch wrthyn nhw heddiw, anfonwch neges atom ar ein tudalen Facebook i rannu eich gwerthfawrogiad.  

 

12/05/2025