Yr wythnos hon, ar draws CTM, rydym yn nodi Wythnos Ymarferwyr Uwch drwy ddathlu rôl Ymarferwyr Uwch yn ein Bwrdd Iechyd.
Mae Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACPs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, wedi'u haddysgu hyd at lefel Meistr, sydd gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i'w galluogi i ehangu eu cwmpas ymarfer i ddiwallu anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.
Caiff Ymarferwyr Clinigol Uwch eu defnyddio ar draws CTM ac maen nhw’n gweithio ar lefel uwch o ymarfer clinigol gan gynnwys ymarfer clinigol, arweinyddiaeth a rheolaeth, addysg ac ymchwil.
Heddiw, rydym yn cwrdd â Helen Yule, ymgynghorydd Radiograffydd sy'n arbenigo mewn delweddu'r fron.
Wrth siarad am fod yn Ymarferydd Uwch , dywedodd Helen: “Mae gen i rôl ddeuol ar gyfer gwasanaeth sgrinio'r fron ar gyfer Bron-Brawf Cymru a'r gwasanaeth bronnau symptomatig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy'n sicrhau cysondeb yn y llwybr cleifion o ddiagnosis i driniaeth ynghyd â gwyliadwriaeth barhaus. Mae rôl y radiograffydd ymgynghorol yn amrywio ar draws maes radioleg ond yr edefyn cyffredin yw eu bod yn arloesi, ysgogi a dylanwadu ar agendâu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
“Mae cyflawni rôl ymarfer clinigol arbenigol yn hanfodol ac yn rhan annatod o broffesiwn radiograffeg ar lefel ymgynghorwyr. Rydw i wedi ennill fy sgiliau a fy nghymwysterau (MSc mewn delweddu meddygol — archwilio’r fron) drwy'r llwybr rôl estynedig, o ymarfer uwch i lefel ymarferydd ymgynghorol.
“Rwy'n adrodd am fwy na 10,000 o famogramau y flwyddyn ac rwy'n gallu cynnal archwiliad clinigol o'r fron ac asesu'r angen am ddelwedd ychwanegol o’r fron. Mae’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes delweddu'r fron hefyd wedi cyflwyno mamograffeg lliw cyferbyniad [contrast-enhanced mammography], sef offeryn diagnostig pellach yn llwybr diagnostig canser y fron, ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yw un o ddim ond dau safle yng Nghymru i ddefnyddio'r dechnoleg hon.
“Mae ymarfer clinigol i mi yn cymryd 50% o fy wythnos waith. Y tu allan i hyn, rwy'n aelod craidd o sefydliadau a fforymau sy'n ffurfio polisi cenedlaethol sy'n cwmpasu'r adolygiad o lwybrau diagnostig a thriniaeth ac arfer gorau sy'n cynnwys y rhai y tu allan i radiograffeg.
“Rwy'n aelod o grŵp cynghori Coleg y Radiograffwyr Ymgynghorol sy'n cyhoeddi canllawiau ar gyfer addysg, hyfforddiant a datblygiad radiograffwyr ymgynghorol yn y dyfodol. Mae cymryd rhan weithredol ar y lefel hon yn agwedd sylfaenol ar fy rôl ac rwy’n dylanwadu ar lwybrau addysgol er mwyn safoni'r broses hon yn genedlaethol ac i godi proffil ‘ymestyn roliau’ o fewn radiograffeg yn gyffredinol.
“Mae bod yn rhan o'r gwerthusiad o dechnolegau newydd ac ymchwilio i effaith deallusrwydd artiffisial ar y rhaglen sgrinio'r fron hefyd yn rhan o fy rôl.
“Mae fy rôl estynedig wedi rhoi cyfle i mi gael effaith fesuradwy a chadarnhaol ar lwybrau diagnostig a thriniaeth i gleifion. Teimlaf ei bod yn fraint mewn sawl ffordd gallu ymarfer y lefel hon o ymreolaeth ac annog y rhai sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth a'u harfer i wneud hynny.”