Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Emrys Elias, wedi croesawu penodiad Aelod Annibynnol newydd i'r Bwrdd, Lynda Thomas, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae Lynda yn ymuno â’r Bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am gyfnod o bedair blynedd, ar ôl gweithio yn y sector gofal iechyd am fwy na dau ddegawd.
Penodwyd Lynda yn Brif Weithredwr Cymorth Canser Macmillan ym mis Mawrth 2015, ac ymunodd â Macmillan yn 2001, gan arwain yr adrannau cyfathrebu a chodi arian.
Wrth ganmol ei phenodiad, dywedodd Emrys Elias: “Rwy'n falch iawn o groesawu Lynda fel Aelod Annibynnol o'n Bwrdd Iechyd. Mae ei set sgiliau a'i gwybodaeth am y sector gofal iechyd yn golygu y bydd yn aelod newydd gwerthfawr iawn yn ein tîm ar y Bwrdd.
“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Lynda yn ystod cyfnod heriol i'r sector, ac rwy'n gwybod y bydd ei phrofiad yn fuddiol iawn i CTM a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Mae Lynda yn ymroddedig i greu amgylchedd lle mae cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr oll yn cael eu grymuso a'u cefnogi i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl â chanser. Mae hi hefyd yn angerddol am degwch, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli.
“Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi i rôl Aelod Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac rwy'n edrych ymlaen at chwarae fy rhan i gefnogi ei waith hanfodol,” meddai Lynda.
“Rwy'n gobeithio y bydd y cyfuniad o fy sgiliau fel arweinydd yn y system iechyd, ac fy ngwybodaeth a fy mrwdfrydedd dros boblogaeth y Bwrdd Iechyd hwn, yn fy ngalluogi i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon a pharhaol. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl sy'n gweithio yn y Bwrdd Iechyd ac — yn bwysicaf oll — y rhai sy'n defnyddio ei wasanaethau.”
Mae Lynda yn teimlo'n gryf am sicrhau bod pobl â chanser yn cael y cymorth sy'n iawn iddyn nhw fel y gallan nhw fyw bywyd mor llawn â phosibl.
Yn wreiddiol, o Borthcawl, mae Lynda yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn ffan mawr o dîm rygbi Cymru!