Rhybudd sbardun - efallai y bydd y stori ganlynol yn gallu achosi gofid i rai pobl. Am ragor o wybodaeth am sut y gall y bwrdd iechyd eich cyfeirio am gymorth, e-bostiwch ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi yn cael ei gynnal bob blwyddyn rhwng 9 a 15 Hydref. Eleni rydym yn helpu i nodi ei 22ain flwyddyn.
Mae’r wythnos yn gyfle i ddod â phobl ynghyd fel cymuned a rhoi lle diogel a chefnogol i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan feichiogrwydd a cholli babi i rannu eu profiadau a theimlo nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.
Mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi ymrwymo i barhau i ddarparu’r lefel uchaf o ofal a chymorth i rieni mewn profedigaeth a chodi ymwybyddiaeth o golli babi.
Dau ddiwrnod cyn dyddiad geni'r babi William, derbyniodd ei fam Danika y newyddion dinistriol nad oedd ganddo guriad calon mwyach. Dyma eu stori nhw…
“Roedd fy meichiogrwydd yn syml ar y cyfan. Mae gan fy merch, sy'n dair bellach, gyflwr genetig prin ac roedd yn fach pan gafodd ei geni felly cefais fonitro ychwanegol gyda William. Roeddwn i'n teimlo ei fod yn fonws i'w weld yn amlach.
Wythnos cyn dyddiad disgwyliedig William cefais sgan ac roedd popeth yn edrych yn dda. Dydd Llun 10 Mehefin doeddwn i ddim wedi teimlo bod y babi’n symud a’r noson honno ymwelais â’r uned famolaeth yn Ysbyty’r Tywysog Siarl i gael rhywfaint o gyngor. Dyna pryd nad oedd y bydwragedd a'r meddygon yn gallu dod o hyd i guriad calon y babi a dywedwyd i mi ei fod wedi marw. Ar y pwynt yma roeddwn i ar ben fy hun felly roedd rhaid aros i fy ngŵr, Jamie, gyrraedd cyn trafod beth oedd angen digwydd nesaf.
Fe wnaethom ni cael ein gymryd i'r ganolfan eni a'n cyflwyno i Sophia, Honey a Charlene, y bydwragedd a'r myfyrwyr bydwreigiaeth, a oedd i gyd yn rhagorol mewn gwahanol ffyrdd. Fe wnaethom gwrdd ag ychydig o feddygon eraill ac anaesthetegydd a ddywedodd wrthym beth oedd ein hopsiynau. Fe benderfynon ni ein bod am fwrw ymlaen â'r prysuro'r geni cyn gynted â phosibl. Roedd y cyfan wedi cael ei arweinio gennym ni a'n dymuniadau.
Dydd Mawrth 11 Mehefin am 10.19yb, rhoddais enedigaeth i'n bachgen hardd, William. Roedd ganddo gwlwm cywir yn ei linyn a oedd hefyd wedi'i lapio am ei wddf ychydig o weithiau. Roeddwn i eisiau cadw popeth mor normal â phosibl felly roedd gen i gysylltiad croen wrth groen a thorri'r llinyn.
Am y tridiau nesaf, daeth ein teulu a’n ffrindiau i’r uned i gwrdd â William. Yn ystod y cyfnod hwnnw – profiad na fyddwch byth yn ei ddychmygu y byddech wedi'i gael – cawsom y gofal mwyaf rhyfeddol gan ein bydwragedd a'n myfyrwyr bydwreigiaeth. Cawsom ein cefnogi gyda chymaint o dosturi a chariad trwy gydol ein harhosiad. Cawsom gefnogaeth i gael blwch atgofion wedi'i wneud gyda'i olion traed, toriadau o wallt, band ysbyty a mwy. Roeddem hefyd yn gallu cael yr elusen, Remember My Baby, i dynnu llun ein mab ac rydym mor ddiolchgar amdano.
Nid oeddem yn teimlo dim ond gofal a chefnogaeth gan bawb y daethom i gysylltiad â nhw yn ystod y tridiau hynny; nid unwaith y gwnaed i ni deimlo roedd rhaid i ni ruthro na'n bod yn gofyn am ormod yn ystod ein hamser gyda William. Roedd y staff yn anhygoel – nid gofalu amdanom ni yn unig oedden nhw, roedden nhw gofalu am bob un oedd yn dod i’r ysbyty, boed hynny gyda chynigion o baned o de, clust i wrando, neu ysgwydd i grio.
Ar ein diwrnod olaf cawsom fendith yn yr uned i William. Roedd Sophia, Honey a Charlene i gyd yn bresennol ac yn crio ochr yn ochr â ni.
Rydym yn ddiolchgar iawn am y gofal a gawsom gennych i gyd Gwnaeth amser mor ddinistriol ychydig yn haws. Ni allem fod wedi gofyn am well gofal.”
Wedi’u cyffwrdd gan y gefnogaeth a’r gofal a gawson ni, ac yn y gobaith o helpu rhieni eraill mewn profedigaeth, sefydlodd Danika a Jamie dudalen codi arian ar gyfer y ward. Maen nhw wedi codi swm anhygoel o £7800 a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu cotiau oer, pecynnau castio a hyfforddiant posibl i staff eu defnyddio, blychau cof neu eitemau blwch cof, yn ogystal â rhoi rhoddion i elusen 4 Louis ac elusen Remember My Baby.
“Os na allwch chi siarad â’r bobl o’ch cwmpas, dewch o hyd i rywun y gallwch siarad ag ef amdano. A mynegwch bopeth rydych chi'n ei feddwl - does dim barn.”
Y cyngor y mae Jamie, tad, yn ei rannu yw: “Un o'r agweddau anoddaf ar golli babi yw nad oes gennych chi'r atgofion hapus i fyfyrio atyn nhw ar ôl iddyn nhw farw; nid yw'r cysylltiad hwnnw wedi'i ffurfio eto. Fel tad, doedd gen i ddim y profiad o gario William felly roedd gen i hyd yn oed llai o gysylltiad ag ef. Rydw i wedi ffeindio hyn yn anodd iawn. Rydw i’n feddwl, yn enwedig o safbwynt gwrywaidd, ei bod mor bwysig rhoi eich balchder i ffwrdd a pheidio â bod ofn siarad am sut rydych chi'n teimlo. Mae’r iaith yn bwysig hefyd – dyw pawb ddim yn deall ‘cafodd y babi ei eni’n cysgu’, a ddylen ni ddim bod â chywilydd nac embaras am ddweud ein bod wedi cael babi, ond bu farw.”
Ychwanegodd Danika: “Rydym wedi ei chael hi’n ddefnyddiol iawn gwirio gyda’n gilydd trwy gydol y dydd oherwydd gallwch fod yn iawn yn y bore ac yna ddim gyda’r nos. Rydyn ni wir yn gwneud ymdrech i siarad am sut rydyn ni'n teimlo.
Rydyn ni hefyd yn deall nad ydych chi'n mynd i alaru yr un ffordd ac weithiau rydyn ni angen cefnogaeth wahanol i'n gilydd.
Yn gyffredinol, mae bod yn ymwybodol o golli babi mor bwysig hefyd. Mae'n bwnc nad yw'n cael ei drafod ac yn aml nid yw pobl eisiau meddwl amdano; nid ydych yn disgwyl cael gwybod tridiau cyn dyddiad geni eich babi ei fod wedi marw, ond mae'n digwydd. A phan fydd yn digwydd, mae siarad amdano yn helpu i leddfu ychydig ar y boen.
Rydw i hefyd wedi’i chael yn ddefnyddiol mynd yn ôl i’r ysbyty – ein hysbyty lleol ni ydyw a bydd angen i ni fynychu apwyntiadau iechyd fy merch, felly roedd yn bwysig i mi dderbyn mai dyma lle collasom William, ond hefyd lle’r oeddem wedi cael tri diwrnod gwerthfawr gyda’n mab a derbyniodd y lefel uchaf o ofal y gallem fod wedi dymuno amdano.”
Mae rhieni sy'n colli eu babi yn cael eu cefnogi gan y bydwragedd ac yn cael cynnig bendith gan dîm Caplaniaeth yr ysbyty. Mae blwch atgofion yn cael ei ddarparu gan yr Elusen 4 Louis ac maen nhw’n cynnwys citiau llaw ac ôl troed, bocs bach ar gyfer clo gwallt y babi, blanced, cofroddion wedi'u gwau â llaw, band ysbyty a thystysgrif bywyd.
Unwaith y caiff rhieni eu rhyddhau o ofal ysbyty, rydyn nhw’n derbyn manylion cyswllt y fydwraig profedigaeth. Mae adnoddau ychwanegol hefyd yn cael eu rhoi i rieni gan elusennau profedigaeth plant fel Aching Arms.
Rhannodd Donna Morgan, Arweinydd Clinigol Profedigaeth ar ran y Gwasanaeth Clinigol Profedigaeth: “Mae colli babi yn boen na all neb ei gymryd i ffwrdd, fodd bynnag yn BIPCTM, rydym yn cydnabod y gall y cymorth a gynigiwn fod yn achubiaeth i’n teuluoedd. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi rydym yn cydnabod yr holl deuluoedd sydd wedi colli eu plant gwerthfawr yn ein gofal, yn ogystal â'r staff sydd wedi eu cefnogi trwy gyfnod mor anodd. Rydym yn eich croesawu i gyd i’n digwyddiad ton o oleuni ar 15 Hydref i anrhydeddu bywydau’r rhai a chafodd ei gymryd yn rhy fuan.”
Digwyddiad Ton o Oleuni
Ymunwch â ni mewn gwasanaeth coffa er cof am bob babi sydd wedi marw yn rhy fuan. Yn ystod y gwasanaeth byddwn yn ymuno ag eraill o amgylch y DU drwy gynnau cannwyll am 7yp.
Bydd gwasanaethau yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
Gweler y poster gwybodaeth yma.
09/10/2024