23 – 29 Medi 2024 yw Wythnos Ryngwladol y Byddar.
Gan ddechrau ar Fedi 23, ymunwn â’r byd i arsylwi Diwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Arwyddion. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn codi ymwybyddiaeth am ieithoedd arwyddion ac yn eiriol dros hawliau pobl fyddar ar draws y byd. Eleni, mae'r ffocws ar annog gwledydd a sefydliadau i ymrwymo i Hawliau Iaith Arwyddion.
Yn BIPCTM, rydym yn ymroddedig i gefnogi ein cleifion byddar i gael mynediad at wasanaethau a chyfathrebu eu hanghenion yn effeithiol. Er mwyn sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu diwallu, rydym yn cynnig amrywiaeth o offer a gwasanaethau:
Gwasanaethau Cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) am ddim
Rydym yn darparu gwasanaethau cyfieithu fideo a wyneb yn wyneb Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9yb a 5yp. Gellir archebu'r gwasanaethau hyn ymlaen llaw ar gyfer apwyntiadau neu gyfarfodydd sy’n cael eu trefnu. Os oes angen cyfieithydd BSL arnoch, rhowch wybod i'r adran, a byddan nhw’n trefnu hyn i chi.
Dyfeisiau Llais-i-Destun
Mae ein prif safleoedd yn cynnwys dyfeisiau sy'n trosi llais i destun, gan wneud cyfathrebu'n haws.
Dolenni Clywed a Dyfeisiau Gwrando
Rydym yn cynnig dolenni clywed a dyfeisiau gwrando eraill i gynorthwyo cleifion sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw. Dylai gwybodaeth am y dyfeisiau hyn fod ar gael ym mhob adran. Os nad ydych yn ei weld, gofynnwch i aelod o staff am gymorth.
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ryngwladol y Byddar, gallwch ymweld â'r dudalen swyddogol yma.
20/09/2024