Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Rhoi Organau 2024

Mae Wythnos Rhoi Organau eleni (23-29 Medi) yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.

Beth yw Rhoi Organau

Mae rhoi organnau yn helpu rhywun sydd angen trawsblaniad. Mae miloedd o fywydau yn y DU yn cael eu hachub neu eu trawsnewid bob blwyddyn gan drawsblaniadau organau.

Gallwch roi rhai organau tra byddwch yn fyw, ac mae hyn yn cael ei alw’n rhoi organau byw. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o roddion organau a meinwe yn dod gan bobl sydd wedi marw.

Gallwch ddarganfod mwy am Roi Organau trwy glicio yma

Beth am y cyfreithiau sy'n ymwneud â Rhoi Organau? 

Cydsyniad tybiedig yw’r ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru. 

Mae hyn yn golygu os nad ydych wedi cofrestru penderfyniad rhoi organau a meinwe (optio i mewn neu optio allan), ystyrir nad oes gennych unrhyw wrthwynebiad i ddod yn rhoddwr.

Ystyrir eich bod yn cytuno i ddod yn rhoddwr organau pan fyddwch yn marw, os:

  • ydych dros 18 oed
  • nad ydych wedi optio allan
  • nad ydych mewn grŵp sydd wedi'i eithrio

Eich penderfyniad chi yw rhoi organau. Gallwch ddewis pa organau i'w rhoi neu optio allan o roi yn gyfan gwbl.

Gallwch ddarllen mwy am ddeddfwriaeth rhoi organau yma

Sut mae eich teulu yn ymwneud â rhoi organau?

Bydd eich teulu bob amser yn cael ei ymgynghori ynghylch a oeddech am fod yn rhoddwr organau ai peidio, ac ni fydd clinigwyr byth yn bwrw ymlaen â rhoi organau os oes gan eich teulu neu’ch anwyliaid unrhyw wrthwynebiad.

Gallwch ddarganfod sut mae eich teulu yn ymwneud â rhoi organau yma

Sut gallwch chi gofrestru? 

Gallwch gofrestru eich penderfyniad i roi (optio i mewn) neu beidio â rhoi (optio allan) yma 

https://www.organdonation.nhs.uk/cy/cofrestru-eich-penderfyniad/