Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Diabetes 2025: Plant, Pobl Ifanc a Diabetes

Y math mwyaf cyffredin o ddiabetes mewn plant a phobl ifanc yw diabetes Math 1. Ond gall plant a phobl ifanc hefyd ddatblygu diabetes Math 2 neu fath arall o ddiabetes.

Symptomau diabetes mewn plant a phobl ifanc

Y symptomau mwyaf cyffredin o ddiabetes Math 1 mewn plant a phobl ifanc yw:

  • Mynd i’r tŷ bach llawer i basio wrin, gwlychu gwely gan blentyn nad oedd yn gwlychu'r gwely o'r blaen neu gewynnau trymach mewn babanod. Codi yn y nos i fynd i'r tŷ bach. 
  • Bod yn sychedig iawn a methu torri’r syched. Efallai y bydd eich plentyn yn gofyn am ddiod yn amlach, yn gorffen diodydd yn gyflym iawn neu efallai y byddwch yn sylwi eu bod yn gyffredinol yn yfed mwy.
  • Teimlo'n fwy blinedig nag arfer. Llai o egni nag arfer, ddim yn chwarae mor aml, llai o egni ar gyfer chwaraeon 
  • Colli pwysau neu edrych yn deneuach nag arfer.
  • Efallai y byddwch hefyd yn sylwi bod eich plentyn yn cael mwy o heintiau nag arfer.

Mae symptomau diabetes Math 1 yn tueddu i ymddangos o fewn dyddiau neu wythnosau a dylech gael cymorth meddygol brys os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw un o'r symptomau hyn.  

Symptomau diabetes math 2 mewn plant a phobl ifanc

Mae symptomau diabetes Math 2 mewn plant a phobl ifanc yr un fath ag y maen nhw ar gyfer diabetes Math 1, ond gallan nhw fod yn llai amlwg a datblygu'n arafach, er enghraifft dros wythnosau neu fisoedd.  

Ond efallai y byddwch yn dal i sylwi ar rai o'r symptomau sy’n cael eu rhestru uchod. 

Mae symptomau diabetes mewn plant a phobl ifanc yr un fath ag y maen nhw mewn oedolion, ond gallan nhw ymddangos yn wahanol er enghraifft plentyn sydd ddim eisiau chwarae gemau mor aml oherwydd bod ganddo lai o egni.

Mae ymchwil wedi dangos bod sawl ffactor risg ar gyfer datblygu diabetes Math 2. Mae'r rhain yn cynnwys ethnigrwydd, geneteg, a ffordd o fyw. Mewn rhai achosion gellir atal diabetes Math 2, yn wahanol i ddiabetes Math 1. 

Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod gan eich plentyn ddiabetes

Mae'n bwysig ceisio cyngor meddygol brys os ydych chi'n pryderu bod eich plentyn yn arddangos arwyddion a symptomau sy’n cael eu rhestru uchod - gellir cael mynediad at hyn trwy'ch meddyg teulu neu drwy wasanaethau y tu allan i oriau ac ni ddylid ei ohirio.  

Os yw'r canlyniadau'n dangos glwcos gwaed uchel, bydd y meddyg teulu yn atgyfeirio'ch plentyn at Dîm Diabetes Arbenigol neu ysbyty a bydd y prawf yn cael ei anfon i'r labordy i wneud diagnosis o ddiabetes. 

Am wybodaeth lawn ar reoli diabetes eich plentyn a sut mae'r Gwasanaeth Diabetes Paediatrig yno i'ch cefnogi, ewch i'n tudalen we.

Darllen ein herthygl newyddion am wybodaeth am fyw'n dda gyda diabetes fel oedolyn, gwiriadau iechyd diabetes blynyddol, a chynllunio ar gyfer beichiogrwydd gyda diabetes.

12/06/2025