Mae BIP CTM yn dathlu Wythnos Dathlu Ymweld Iechyd Cymru (3ydd - 7fed Mawrth), sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a chydnabod y cyfraniad gwych y mae’r holl staff yn ei wneud i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gefnogi teuluoedd a gwella canlyniadau i fabanod a phlant ledled Cymru.
Pwy yw ymwelwyr iechyd a beth maen nhw'n ei wneud?
Mae ymwelwyr iechyd yn Nyrsys neu Fydwragedd cofrestredig sydd â chymhwyster ychwanegol fel Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn gofal iechyd.
Mae’r tîm Ymwelwyr Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau, gweithwyr proffesiynol eraill a theuluoedd yn ystod y cyfnod cyn-geni, a hyd nes y bydd y plentyn yn cyrraedd 5 oed (pan fydd yn dechrau yn yr ysgol). Mae'r tîm Ymwelwyr Iechyd yn darparu cyngor a chefnogaeth i deuluoedd o ran datblygiad plant, ac iechyd corfforol ac iechyd meddwl teuluoedd.
Gallwch ddarganfod mwy am ymwelwyr iechyd a beth maen nhw'n ei wneud yma a thrwy wylio'r fideo hwn: https://vimeo.com/772475131/7057202720
Yn ystod yr wythnos, bydd aelodau o dîm Ymwelwyr Iechyd CTM yn cynnal digwyddiadau cwrdd a chyfarch, gan rannu gwybodaeth am iechyd a datblygiad plant. Byddan nhw hefyd yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd ym maes ymwelwyr iechyd.
Gallwch gwrdd â’r tîm yn:
Ysbyty'r Tywysog Siarl (Prif gyntedd)
Dydd Mawrth 4ydd Mawrth, 10:00am - 2:00pm
Ysbyty Brenhinol Morgannwg (Cyntedd y tu allan i’r prif fwyty)
Dydd Mercher 5ed Mawrth, 10:00am - 2:00pm
Ysbyty Tywysoges Cymru (Cyntedd y tu allan i fferyllfa)
Dydd Iau 6ed Mawrth, 10:00am - 2:00pm
Arolwg Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd BIP CTM
Mae BIP CTM ar hyn o bryd yn cynnal arolwg yn gofyn am adborth gan bobl sydd wedi derbyn cymorth yn ddiweddar gan einGwasanaethau Ymwelwyr Iechyd. Dylai'r holiadur gymryd tua 3 munud i'w gwblhau, mae'n wirfoddol ac mae'r holl ganlyniadau'n ddienw.
I gwblhau'r arolwg, cliciwch yma a dewiswch y lleoliad perthnasol.
Dywedodd Andrea Bevan (Nyrs Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Arbenigol yn y Gymuned (SCPHN)): “Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n timau Ymwelwyr Iechyd am eu gwaith caled a’r ymrwymiad y maen nhw’n ei roi i’r plant a’r teuluoedd yn ein cymunedau lleol. Mae ein timau Ymwelwyr Iechyd yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae ymroddiad y tîm Ymwelwyr Iechyd yn ganmoladwy. Rydw i’n hynod falch o fy nhîm, ac yn 2025 byddwn yn parhau i ymdrechu am ragoriaeth a gwneud y dyfodol hyd yn oed yn fwy disglair.”
04/03/2025