Yr wythnos hon, mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol. Rydyn ni wedi rhoi miliwn o frechlynnau rhag COVID-19 i drigolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
BIP CTM yw'r trydydd Bwrdd Iechyd yng Nghymru i gyrraedd y garreg filltir hon, yn rhaglen frechu dorfol fwyaf ein hoes.
Dechreuodd y rhaglen frechu i'r staff am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2020, ac yna i'r cyhoedd mewn meddygfeydd ym mis Ionawr 2021. Symudwyd y gwaith o gynnal y rhaglen frechu i bum canolfan frechu gymunedol arbennig ym mis Ebrill 2021.
Cafodd Gabriel Salvatore, sy’n 14 oed ac yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr, y miliynfed brechlyn. Hwn oedd ei drydydd pigiad, a chafodd ei frechu yng Nghanolfan Brechu Cymunedol Ravens Court yr wythnos hon.
Aeth Gabriel i’r ganolfan gyda'i fam, Rosaleen, a'i frawd iau, Nathaniel, sy’n 13 oed, a gafodd y ddos atgyfnerthu hefyd.
Roedd y teulu'n falch iawn o fod yn rhan o'r garreg filltir arwyddocaol hon a dywedodd bob un ohonyn nhw fod angen diogelu pobl eraill.
Meddai Gabriel, “Mae’n fraint cael y miliynfed brechlyn rhag COVID-19. Rwy'n credu bod gwneud hyn yn diogelu fy anwyliaid a phobl eraill.”
Ar y cyfan, mae nifer fawr o bobl yn ardal CTM wedi manteisio ar y brechlyn – mae 279,252 o bobl wedi cael y ddos atgyfnerthu, sy'n golygu
bod 82% o'r boblogaeth gymwys wedi cael eu brechu’n llawn i gael yr amddiffyniad gorau posib rhag y feirws.
Rhoddodd Julie Keegan, Cyfarwyddwr y Rhaglen Frechu rhag COVID-19, glod i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhaglen am eu hymdrechion aruthrol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
“Y rhaglen frechu yw'r rhaglen fwyaf a hiraf erioed i'n Bwrdd Iechyd, ac mae ei llwyddiant yn deyrnged i ymdrechion cynifer o bobl,” meddai hi.
“Rydyn ni wedi cyrraedd y garreg filltir hon diolch i fisoedd o waith caled gan bawb yn BIP CTM, y meddygon teulu, yr awdurdodau lleol, y Weinyddiaeth Amddiffyn, sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau cymunedol. Maen nhw i gyd wedi helpu i ddiogelu cannoedd o filoedd o bobl leol.
“Diolch i bawb am eu cydweithrediad, rydyn ni wedi llwyddo i gynnig brechiadau ar y raddfa enfawr hon. Hoffem ni ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser, gweithio oriau ychwanegol, a mynd y filltir ychwanegol i helpu i gyflawni hyn. Allem ni ddim cyflawni hynny heboch chi.
“Hoffem ni ddiolch i holl drigolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sydd eisoes wedi manteisio ar y brechlyn rhag COVID-19 ac sydd wedi dangos dealltwriaeth, amynedd a gwerthfawrogiad mawr at ein timau brechu. Mae brechu’n achub bywydau, felly os ydych chi'n 12 oed neu’n hŷn a heb fanteisio ar frechiad eto, dewch draw i ddiogelu eich hun rhag y feirws.
“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwych o ran brechu pobl, gan sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn cael yr amddiffyniad gorau posib rhag y feirws ofnadwy hwn.
“Fodd bynnag, mae angen i ni gofio bod llawer i'w wneud o hyd. Rydyn ni am i bawb helpu i drechu'r feirws ac atal amrywiolion newydd rhag dod i’r
amlwg. Rydyn ni’n annog pawb yn ardal BIP CTM sydd heb fanteisio eto ar y cynnig i gael y brechlyn i gael eu brechu cyn gynted â phosib, er mwyn diogelu eu hunain a diogelu eraill. Gall COVID-19 effeithio ar unrhyw un, p’un a ydych chi’n ifanc neu’n hŷn, felly peidiwch â pheryglu eich iechyd na’r posibilrwydd o golli'r rhyddid newydd mae'r rhaglen frechu wedi ei roi i bawb.”
Bydd BIP CTM yn parhau i anfon apwyntiad at bobl ar gyfer eu brechlyn nesaf pan fyddan nhw’n barod i’w gael. Yn ogystal â'r apwyntiadau hyn, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig sesiynau cerdded-i-mewn ar draws pum canolfan frechu gymunedol, ac ar hyn o bryd mae dwy ganolfan frechu yn y car yn Ysbyty'r Seren, Pen-y-bont ar Ogwr ac ym Mharc Iechyd Keir Hardie, Merthyr Tudful. Mae’r oriau agor a’r meini prawf i’w gweld ar wefan BIP Cwm Taf Morgannwg.