Heddiw (19 Gorffennaf), ail-agorodd y drysau yn Nhŷ Enfys (Uned Ddydd 2 gynt) ym Mharc Iechyd Keir Hardie, a chafodd defnyddwyr groeso yno unwaith eto. Mae Tŷ Enfys yn uned ddydd sydd ym Mharc Iechyd Keir Hardie ym Merthyr Tudful ac mae'n cefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia yn ardal Merthyr a Cynon a'u teuluoedd. Mae'r uned yn seiliedig ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac mae'n llawn pethau bywiog, gweithgareddau a lliwiau i gadw diddordeb pobl a’u helpu i aros mor egnïol â phosibl.
Agorodd yr Uned Ddydd 2 wreiddiol yn 2012, ynghyd â gweddill y cyfleusterau ym Mharc Iechyd Keir Hardie, ond roedd angen diweddaru ac adnewyddu'r uned i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda dementia. Gweithio mewn partneriaeth; Gofynnodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBS Merthyr) am gyllid, a chawsant £1.6m gan Lywodraeth Cymru cyn i waith ddechrau ar yr uned.
Dywedodd Robert Richards, Uwch-nyrs Iechyd Meddwl Pobl Hŷn: "Roeddwn i a'r tîm wrth eu bodd yn derbyn arian Llywodraeth Cymru i adnewyddu a gwella'r uned. Comisiynwyd Meaningful Care Matters gennym i'n cefnogi ni ar y daith, ac fe wnaethon nhw ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, rhanddeiliaid a staff i wella'r gwasanaeth a'r cyfleuster er mwyn i ni sicrhau bod gan bobl Merthyr a Cynon yr uned orau bosibl.
"Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig iawn, ac mae croesawu'r defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, yn ogystal â staff, yn ôl i'r uned drawiadol hon a'u gweld yn hapus yma mor werthfawr. Hoffwn ddiolch i'r holl staff o BIP CTM ac CBS Merthyr am eu holl waith caled a'u cefnogaeth tra oedden ni ar gau ar gyfer y gwaith adnewyddu, ac am barhau i redeg gwasanaethau o dan yr amodau mwyaf heriol.”
Un o'r defnyddwyr gwasanaeth cyntaf i fynd i mewn i'r uned oedd John Gamling a'i wraig o Ferthyr Tudful. Roedd John mor falch pan ymunodd â'r uned gyda'i wraig Marlene.
Dywedodd Marlene: "Mae'r uned yn hardd ac rydym yn ffodus iawn o gael lle mor fodern a hardd yn ein hardal i gefnogi pobl Merthyr a Cynon."
Mae Kathy Evans, Rheolwr Gwasanaethau Dydd CBS Merthyr, ac Allyson Williams, Rheolwr yr Uned Ddydd, yn rheoli'r uned ar y cyd. Dywedodd Kathy: "Mae'r trawsnewidiad yn anhygoel, alla i ddim aros i ymgartrefu yn yr uned a gweld y defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd yn mwynhau'r hyn sydd gan y cyfleusterau i'w gynnig."
Mae'r cyfleusterau'n cynnwys ceginau i bobi ynddyn nhw, mannau darllen, lle i wylio'r teledu a gwrando ar gerddoriaeth yn ogystal â mannau y tu allan ar gyfer bowlio. Mae gardd a siediau i ymlacio ynddyn nhw hefyd. Mae gan yr uned salon trin gwallt hefyd.
Dywedodd Allyson Williams, Rheolwr Uned Ddydd o BIP CTM: "Mae gweld y defnyddwyr gwasanaeth yn ôl yn yr uned mor gyffrous, mae'n uned fywiog, eang gyda chymaint o feysydd ar gyfer gweithgareddau. Mae'n teimlo’n gartrefol a bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r bobl sy'n dod yma. Wrth i chi gerdded drwy'r drws mae'r lle cyfan yn codi eich calon. Rwy'n falch iawn o fod yn ôl ac yn teimlo'n ffodus o fod yn gweithio mewn lle mor hardd."