Mae Diwrnod Dim Smygu 2026 yn digwydd heddiw (Dydd Mercher 11 Mawrth). Mae dros hanner y bobl sy'n ysmygu yng Nghymru (53%) eisiau rhoi'r gorau iddi. Os ydych chi'n meddwl am roi’r gorau iddi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Darllenwch am ddau o'n cleifion, Alun a Lynn, ar sut y cefnogodd Helpa Fi i Stopio nhw i ddod yn ddi-fwg.
Cafodd Alun ei adfywio yn yr ysbyty yn dilyn ataliad ar y galon, ac mae'n teimlo mai dyma ei ail gyfle mewn bywyd. Mae bellach yn benderfynol o beidio byth ag ysmygu eto.
Tra'n cael ei drin fel claf mewnol yn dilyn ei drawiad ar y galon ac ataliad ar y galon, cafodd ei atgyfeirio at y tîm Helpa Fi i Stopio (HMQ). Ymwelodd cynghorydd ag ef tra roedd yn yr ysbyty i drafod y cymorth a'r opsiynau triniaeth sydd ar gael i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu. Roedd yn awyddus iawn i gael mynediad at y gwasanaeth ac yn benderfynol o roi'r gorau i ysmygu ar ôl iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty.
Cafodd therapi dislodi nicotin ei ddarparu a dewisodd gael patsien 24 awr ac anadlydd i helpu gyda'r arfer o ysmygu.
Ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty, derbyniodd alwad ffôn wythnosol gan ei gynghorydd, a gynigiodd gefnogaeth, arweiniad, awgrymiadau a syniadau i'w helpu i lywio trwy ei ymgais i roi'r gorau iddi. Roedd y galwadau ffôn yn ddefnyddiol iawn ac o fudd mawr, gydag Alun yn llwyddo i barhau i roi'r gorau iddi dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Roedd yn bositif iawn ac er gwaethaf dioddef o rai problemau a heriau parhaus gyda'i iechyd, mae wedi sylwi ar welliant yn ei les a hefyd yn ei arbedion ariannol.
Mae Alun yn awyddus iawn i dynnu sylw at werth cefnogaeth HMQ a phwysigrwydd bod eisiau rhoi'r gorau iddi er eich mwyn eich hun ac nid er mwyn eraill. Dywedodd Alun: Roedd y gefnogaeth Helpa Fi i Stopio yn wych – mae'n bwysig cofio nad yw chwantau'n para dim amser ac yn diflannu'n fuan. Mae'n rhaid eich bod chi eisiau rhoi'r gorau iddi drosoch eich hun – defnyddiwch y Gwasanaeth Helpa Fi i Stopio gan ei fod wir yn eich helpu a'ch cefnogi. Rydw i'n benderfynol o beidio byth ag ysmygu eto – dw i'n gwybod na alla i gymryd y risg honno.’
Mae Lynn yn rhannu ei thaith i ddod yn ddi-fwg gyda Helpa Fi i Stopio yn 2025.
“Rydw i’n fenyw 68 oed, sydd wedi ysmygu rhwng 10-12 sigarét y dydd ers tua 50 blwyddyn. Rydw i’n dioddef o asthma, gorbryder ac iselder ac rydw i bob amser wedi defnyddio'r esgus dros ysmygu ei fod wedi helpu fy gorbryder a'm iselder ond wedi anwybyddu'r asthma. Rydw i wedi ceisio ar sawl achlysur i geisio stopio heb unrhyw fath o lwyddiant.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i wedi gorfod ymdopi â phoen eithafol yn fy nghefn oherwydd disg sydd wedi cwympo o'i le. Llwyddais i wneud apwyntiad i gael y llawdriniaeth angenrheidiol. Mae'n rhaid i mi gael archwiliad hefyd i brofi am clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac rydw i’n ofnus iawn o'r canlyniadau.
Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi ddechrau gofalu am fy iechyd yn fwy a phenderfynais wasgu fy nannedd a cheisio rhoi'r gorau iddi. Gan fy mod i wedi ceisio ar fy mhen fy hun yn y gorffennol, penderfynais fynd i HMQ ar gyngor fy meddyg.
Gwnaeth Clare o HMQ gysylltu â fi. Dydw i ddim yn y math o berson sy'n gallu siarad â dieithriaid yn hawdd, felly roeddwn i braidd yn amheus ac yn nerfus ynglŷn â beth fyddai'n digwydd.
Pan siaradais â Clare gyntaf roeddwn i'n nerfus, ond gan fod Clare yn ddeallus iawn ac nad oedd hi'n fy ngwthio, erbyn diwedd yr alwad ffôn gyntaf honno, roeddwn i'n teimlo'n llawer gwell. Roeddwn i'n edrych ymlaen at alwad Clare bob wythnos ac fe helpodd hi fi i gasglu fy meddyliau am roi'r gorau iddi a sut y byddai'n helpu gyda'r adferiad ar ôl fy llawdriniaeth a'm hiechyd yn y dyfodol.
Mae hi wedi bod yn 63 diwrnod o beidio ag ysmygu nawr ac rydw i’n teimlo cymaint yn well. Rydw i wedi cael fy llawdriniaeth a bydda i’n gwneud apwyntiad ar gyfer y prawf COPD. Rydw i wedi sylwi bod fy synnwyr arogleuo wedi cynyddu ac mae fy mhwysedd gwaed yn ôl i ddarlleniad normal ar ôl dioddef o bwysedd gwaed uchel am y 15 mlynedd diwethaf.
Byddwn i’n cynghori unrhyw un sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu i gysylltu â HMQ gan fod y cymorth a dderbyniwyd yn ardderchog.”
Bydd ein tîm Helpa Fi i Stopio yn cynnal stondinau gwybodaeth yn y dyddiau a'r lleoliadau canlynol:
Mynedfa 5 Adran Cleifion Allanol Ysbyty'r Tywysog Siarl
9.30am i 2.30pm
Cantîn Ysbyty Tywysoges Cymru
9.30am i 2.30pm
Cantîn Ysbyty Brenhinol Morganwg
9.30am i 2.30pm
Cyntedd Parc Iechyd Dewi Sant
9.30am i 2.30pm
Ysbyty Cwm Rhondda Foyer
9.30am i 2.30pm
Sgwrsiwch gyda'n cynghorwyr am sut allwch chi ddod yn ddi-fwg er eich iechyd, er eich teuluoedd, ac er eich dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan Helpa Fi i Stopio.
11/03/26