Neidio i'r prif gynnwy

Staff Cwm Taf Morgannwg yn ennill tair Gwobr Moondance Cancer

Mae staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ennill tair Gwobr Moondance Cancer 2024.

Mae Moondance Cancer Awards yn dathlu ac yn rhoi sylw i bobl wych ledled GIG Cymru a'i bartneriaid sy'n darparu, arwain ac arloesi gwasanaethau canser. Roedd y gwobrau2024ar 13 Mehefin yn Depot, Caerdydd.

Yn y categori Arloesi a Gwella, enillodd tîm yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Gwasanaeth Carsinoma Hepatogellol Rhanbarthol De Cymru, BIP Caerdydd a’r Fro, BIP Aneurin Bevan Wobr y Gweithlu Canser.

Yn yr un categori, enillodd tîm arall sy'n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser y Wobr Canfod a Diagnosis yn Gynnar ar gyfer Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint - Peilot Gweithredol Cymru.

Yn olaf, enillodd Ms Zoe Barber (Llawfeddyg y Fron Oncoplastig Ymgynghorol) y wobr am Ragoriaeth Feddygol.

Dywedodd Dr Sinan Eccles, Arweinydd Clinigol Peilot Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint a Meddyg Anadlol Ymgynghorol “Mae Peilot Gweithredol Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint eisoes wedi achub bywydau rhag canser yr ysgyfaint ac mae’n darparu dysgu ar gyfer rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint cenedlaethol yn y dyfodol. Mae’n wych bod y tîm sy’n cyflwyno’r Peilot wedi’i gydnabod drwy’r wobr hon.”

Dywedodd Zoe Barber: “Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill Gwobr Glinigol: Rhagoriaeth Moondance i gydnabod ein gwaith yn datblygu llwybr canser metastatig cyntaf y DU (Llwybr Canser Metastatig y Fron Cymru Gyfan) a chreu Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach i ddarparu gofal y fron rhagorol i'n cleifion. Mae’n fraint lwyr cael gweithio fel rhan o dîm uchelgeisiol, deinamig ac angerddol sy’n ceisio darparu’r gofal gorau posibl i’n cleifion. Rydw i mor falch o weithio yn BIPCTM.”

Dywedodd Paul Mears, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg “Rwyf wrth fy modd bod CTM wedi cael ei gydnabod drwy ennill tri chategori yng Ngwobrau Moondance Cancer eleni. Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn dangos ymdrechion ein timau sy'n darparu, yn arwain ac yn gweithio i arloesi gwasanaethau canser. Llongyfarchiadau enfawr i’n tri enillydd.”

20/06/2024