Mae Wythnos Rhoi Organau eleni, sy'n cael ei dathlu rhwng 23-29 Medi, yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.
Ddydd Gwener 27 Medi, bydd tîm cryf o 100 o wirfoddolwyr yn cario baner binc i gopa Pen Y Fan, i hyrwyddo pwysigrwydd rhoi organau ac annog pobl i gofrestru fel rhoddwr organau. Byddan nhw’n ymuno â thimau o wirfoddolwyr ledled y DU, a fydd yn dringo mynyddoedd a chopâu yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, i “Troi’r Copâu yn Binc” ar gyfer Wythnos Rhoi Organau.
Bydd y tîm lleol yn cynnwys Victoria Hughes a Corinna McNeil, Nyrsys Arbenigol ar gyfer Rhoi Organau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Rhys Llewellyn, derbynnydd trawsblaniad sy'n byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg sydd wedi cael dau drawsblaniad y galon ac sydd wedi cael cymorth gan dîm adsefydlu cardiaidd Ysbyty’r Tywysog Siarl yn ystod ei adferiad.
Dywedodd Victoria Hughes (Nyrs Arbenigol Rhoi Organau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae gan Rhondda Cynon Taf y cyfraddau cofrestru isaf ar y Gofrestr Rhoi Organau yng Nghymru gyfan, gyda dim ond 27% o bobl sydd wedi cofrestru i optio i mewn a 4% wedi cofrestru i optio allan. Yn ystod Wythnos Rhoi Organau eleni, rydym yn gobeithio cynyddu ymwybyddiaeth o'r rhodd achub bywyd sef rhoi organau ac annog cymaint o bobl â phosibl ar draws ardal BIPCTM i gofrestru eu penderfyniad rhoi ar-lein.”
Dywedodd Corinna McNeil, (Nyrs Arbenigol Rhoi Organau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg): Os gallaf eich annog i wneud unrhyw beth yr wythnos hon o roi organau, byddai cofrestru eich penderfyniad ar y Gofrestr Rhoi Organau a rhannu'r penderfyniad hwn gyda'ch anwyliaid.”
Meddai Rhys Llewellyn: “Mae fy mywyd wedi cael ei achub ddwywaith drwy roi organau, diolch i ddau drawsblaniad calon, yn 2011 yn 25 oed a 2021 yn 35 oed. Heb ddau roddwr anhunanol a phenderfyniadau eu teuluoedd i roi eu organau, yn syml, ni fyddwn yma. Mae rhoi organau yn achub bywydau. Rwy'n cefnogi Wythnos Rhoi Organau drwy ddringo Pen Y Fan i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd rhoi organau. Dw i am annog pobl yn ardal Cwm Taf Morgannwg i feddwl am gofrestru fel rhoddwr organau, ac i siarad â'ch teulu am eich dymuniadau.”
Gallwch ddarllen mwy am roi organau YMA
Gallwch ddarllen mwy am stori Rhys YMA
25/09/2024