Neidio i'r prif gynnwy

Staff a phobl ifanc yn dod at ei gilydd i harddu'r ardd i gleifion

Dros y misoedd diwethaf, mae staff a phobl ifanc yn Uned Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl Plant Tŷ Llidiard yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi bod yn adnewyddu un o'r gerddi i gleifion gan baentio murlun, ychwanegu addurniadau gardd, plannu blodau a thyfu bwyd.

Ty Llidiard Dechreuodd y gwaith ym mis Mawrth 2024 i arddur’r ardd i gleifion a'i gwneud yn le mwy croesawgar, pleserus i'r bobl ifanc ei ddefnyddio yn ystod eu hamser yn yr uned cleifion mewnol. Mae'r lle bellach yn gartref i flodau ffres, addurniadau wedi'u haddurno gan y bobl ifanc, gwelyau mewn potiau ar gyfer tatws a mefus, a choeden deimladau lle gall pobl ifanc rannu eu meddyliau a'u teimladau ar y dail.

Ty Llidiard Yn ogystal, mae gan yr ardd bellach murlun mawr, lliwgar a chafodd ei ysbrydoli gan luniadau un o’r cleifion. Roedd staff ac aelodau'r gymuned gelfyddydol leol ar flaen y gad o ran dod â'r llun yn fyw. Helpodd yr artist lleol, Jeff Evans, i ddylunio'r murlun o'r darn gwreiddiol ac roedd cerddorion o Music in Hospitals — menter sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru — yn aml yn chwarae yn ystod sesiynau paentio. Roedd 'diwrnod cyfnewid planhigion' hefyd a rhoddodd staff blanhigion i ychwanegu amrywiaeth i'r ardd.

Roedd Virginia Richards, Athrawes Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn y GIG, yn arwain ar y prosiect, gan weithio gyda chleifion i'w ddwyn i ffrwyth: “Mae'r ardd wedi dod â staff a phobl ifanc at ei gilydd i weithio ar rywbeth ar y cyd, y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo a pharhau i ofalu amdano. Roedd hefyd yn golygu bod Cleifion Mewnol CAMHS a'r timau Allgymorth CAMHS Anhwylderau Bwyta - sydd ddim fel arfer yn cael cyfle i weithio gyda'i gilydd - yn gallu rhannu'r profiad hwn.” 

Cynhaliodd yr uned garddwest ddydd Iau 18 Gorffennaf i ddathlu'r prosiect gorffenedig gyda phobl ifanc a staff yn bresennol yno. Rhannodd pobl ifanc o'r uned eu profiadau: “Roedd yn braf gwneud pethau ychydig o weithiau yr wythnos gan ein bod ni'n cael llawer o amser rhydd felly mae'n dda cael gweithgareddau”, gydag un claf yn disgrifio sut mae “yr ardd wedi fy ysbrydoli i wneud TGAU celf”.

Ty Llidiard Ty Llidiard

Mae ardal gardd y cwrt yn un o sawl un yn yr uned; mae'r staff yn bwriadu adnewyddu'r lleill maes o law.

Dywedodd Lloyd Griffiths, Pennaeth Nyrsio Iechyd Meddwl: “Mae'n hyfryd gweld canlyniad gorffenedig gwaith caled ein pobl ifanc a'n staff. Mae wedi bod yn wych gweld pobl ifanc yr uned yn teimlo ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn y prosiect. Mae lle yr ardd bellach yn ardal gynnes, lliwgar a chreadigol a fydd yn darparu lle cadarnhaol i bobl ifanc yn ystod eu harhosiad.”

 

01/08/2024