Mae staff o Adrannau Argyfwng CTM, a dau gydweithiwr o Ysbyty’r Faenor Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, wedi mynychu cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr ar gyfer Siwt Risbiradol Amddiffynnol ar 18 Medi yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Ariannwyd y cwrs gan Uned Cynllunio Brys Llywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan Gareth Jones o Respirex, sy’n cynhyrchu’r siwtiau.
Defnyddir y siwtiau i amddiffyn staff rhag halogiad cemegol wrth ddadhalogi cleifion sydd wedi bod yn agored i sylweddau cemegol. Bydd y staff nawr yn dychwelyd i'w Hadrannau Brys ac yn darparu hyfforddiant i'w cydweithwyr gyda chymorth Andy Francis, Rheolwr Parodrwydd am Argyfyngau ac Adfer CTM.
Dywedodd Andy, “Diolch i David Goulding a'r Tîm Cynllunio ar gyfer Argyfwng yn Llywodraeth Cymru am ariannu pedwar cwrs ledled Cymru. Diolch Jeremy Clare hefyd o Ysbyty Tywysoges Cymru am ei gefnogaeth wrth baratoi'r offer ar gyfer y diwrnod. Diolch Gareth Jones yn ogystal ac yn arbennig i'r myfyrwyr a gymerodd ran lawn yn y diwrnodau hyfforddi ac a’i gwnaeth yn brofiad dysgu gwych.”