Yn ddiweddar cafodd Sam Fisher (Dirprwy Gyfarwyddwr Fferylliaeth BIP CTM) ei chyflwyno gyda Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Bwrdd Fferylliaeth Cymru y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru.
Cafodd Sam ei chydnabod am ei gwaith arwain ym maes fferylliaeth gymunedol a’i ‘hymroddiad diwyro, ymgais diflino i sicrhau rhagoriaeth, a’r effaith ddofn y mae wedi’i chael ac yn parhau i’w chael o fewn fferylliaeth a thu hwnt dros y 25 mlynedd diwethaf.’
Graddiodd Sam o Ysgol Fferylliaeth Cymru (fel yr oedd) Prifysgol Caerdydd, a chofrestrodd fel fferyllydd ym 1997 ar ôl cwblhau lleoliad cyn-gofrestru gyda fferyllfa gymunedol luosog fawr. Aeth ymlaen i ennill MSc mewn Fferylliaeth Gymunedol Glinigol, cyn symud i rolau mwy gweithredol yn y sector fferyllfa yn y gymuned.
Mae Sam wedi dal nifer o rolau gweithredol fferylliaeth gan gynnwys Rheolwr Ardal a Chyfarwyddwr Gweithrediadau Rhanbarthol, ac yna'n ddiweddarach dechrau gweithio mewn rolau canolog yn gyfrifol am arwain mentrau trawsnewid busnes allweddol ac am flynyddoedd lawer yn gweithio fel Pennaeth Materion Fferylliaeth ar draws y DU. Yn ystod ei 25 mlynedd yn gweithio mewn fferylliaeth gymunedol, mae rolau arweinyddiaeth Sam wedi cynnwys cyfarwyddwr bwrdd Cymdeithas Fferyllwyr Cwmnïau (CCA), aelod o fwrdd y Pwyllgor Negodi’r Gwasanaethau Fferyllol (PSNC), Is-gadeirydd ac aelod o fwrdd Fferylliaeth Gymunedol Cymru (CPW).
Mae hi wedi helpu i lunio'r weledigaeth ar gyfer fferylliaeth yng Nghymru, gan weithio gyda'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol am gyfnod i helpu i sefydlu strwythurau llywodraethu cryf ar gyfer prosiect Cyflawni Cymru Iachach. Ar hyn o bryd mae Sam yn dal gyda’r swydd Is-gadeirydd Pwyllgor Fferyllol Cymru ac mae'n gweithio i gydlynu'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad ar gyfer y pwyllgor.
Ar y noson, Dywedodd Cyfarwyddwr (Cymru) y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Elen Jones: "Mae Sam yn cael ei pharchu’n fawr gan ei chyfoedion ac mae'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan ei staff yn ei rôl bresennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Dywedodd un o aelodau ei thîm, sydd hefyd yn un o'n haelodau bwrdd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, ‘Mae wedi bod yn amlwg o'r cychwyn cyntaf ei bod yn rhywun sydd â meddwl strategol gwych, a dros y blynyddoedd mae wedi gyrru'r proffesiwn fferylliaeth ymlaen, gan eirioli dros bob sector, i hyrwyddo gofal cleifion a rhagoriaeth mewn timau fferylliaeth. Ar ôl cael y fraint o fod yn dyst yn uniongyrchol i'w gallu i fynegi ein hanghenion a negodi i helpu fferylliaeth i weithio ar frig ei drwydded, roeddwn i’n gwybod ein bod mewn dwylo diogel'.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle ar ran y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Bwrdd Fferylliaeth Cymru yn ogystal â'ch holl gydweithwyr yn yr ystafell heno, i ddweud diolch yn fawr iawn am bopeth rydych chi'n ei wneud i'r proffesiwn fferylliaeth, diolch i chi am y gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i bob un ohonom ni fel cydweithwyr a ffrindiau ac ni allwn aros i weld beth sydd nesaf i chi yn eich gyrfa anhygoel. Rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i ddod."
Dywedodd Hannah Wilton, Prif Fferyllydd BIPCTM: "Mae Sam yn un o'r unigolion mwyaf trawiadol rydw i erioed wedi cwrdd. O'r amser cyntaf cwrddon ni, roeddwn i’n gwybod ei bod hi'n rhywun â'r cymhelliant, yr uchelgais, y weledigaeth a'r gwerthoedd y byddwn i'n lwcus iawn o'u cael yn fy nhîm. Mae Sam yn ddadansoddol, yn canolbwyntio ar ganlyniadau, yn ddewr, yn gadarn, yn ddi-ofn, yn greadigol ac yn weledigaethol, ac ar yr un pryd yn empathig, yn anfeirniadol ac yn ostyngedig ac yn dosturiol: yr holl rinweddau rydw i’n eu hystyried yn hanfodol ar gyfer arweinyddiaeth dda. Rydw i’n mor falch o gael hi fel cydweithiwr ac yn rhan o'n tîm, ac mae hi'n haeddu'r gydnabyddiaeth hon yn fawr."
Dywedodd Sam "Roedd y wobr hon yn gymaint o syndod, ac rydw i wrth fy modd ac yn teimlo'n freintiedig o gael fy enwebu ar gyfer y wobr hon gan ein corff arweinyddiaeth broffesiynol y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol."
05/12/2024