Mae rôl Llywiwr Canser Radiograffeg ymarfer uwch newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lleihau amseroedd aros ac wedi gwella llwybrau canser ar gyfer cleifion Radioleg — gan sganio bron i 400 yn fwy o gleifion yn yr wyth mis ers iddo ddechrau.
Cyflwynwyd y rôl ym mis Awst 2022 yn Ysbyty Tywysoges Cymru, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Arloesi Gofal wedi'i Gynllunio Comisiwn Bevan. Nod y prosiect Llywio Llwybr Radioleg oedd lleihau’r oedi rhwng diagnosis a thriniaeth i gleifion canser yn sylweddol- gan arwain at ganlyniadau gwell a chyfraddau goroesi uwch.
Mae'r Llywiwr yn gweithredu fel canllaw i gleifion, gan egluro archwiliadau a gweithdrefnau Radioleg, yn ogystal â chyfuno sawl prawf yn un er mwyn gallu ymweld â'r adran Radioleg unwaith. Mae'r Llywiwr hefyd yn gyswllt hanfodol rhwng Radioleg a'r timau clinigol, fel pwynt cyswllt gyda phresenoldeb mewn cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol i uwchgyfeirio cleifion trwy'r llwybr a chynorthwyo gydag atgyfeiriadau ymlaen at wasanaethau eraill.
Mae Sarah Maund wedi ymgymryd â'r rôl newydd fel Llywiwr Canser Radioleg ac mae wedi bod yn anhepgor wrth gyflwyno’r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer gwelliannau sylweddol yn y llwybrau canser. Fel arweinydd y prosiect, mae'r Radiograffydd Ymarfer Uwch Louisa Edwards-Brown wedi gweithio gyda Sarah a’r Arweinwyr Dulliau Radioleg i ddatblygu a rhannu'r rôl, gan annog timau clinigol i ddefnyddio'r wybodaeth a'r arbenigedd a ddaw yn ei sgil, yn ogystal â dadansoddi'r effaith y mae'r rôl wedi'i chael.
Roedd y camau cychwynnol yn cynnwys newid y broses atgyfeirio ac awdurdodi gan alluogi gostyngiad cyflym o 5 diwrnod i un diwrnod ar gyfer atgyfeiriadau brys lle mae amheuaeth o ganser. Canolbwyntiodd y prosiect ar lwybrau canser yr ysgyfaint a chanser y coluddyn, gan wneud gwelliannau sylweddol sy’n cynnwys llai o amser aros ar gyfer sganiau llwyfannu CT yn dilyn pelydr-x positif o'r frest neu golonosgopi positif. Bydd gwaith rhwng Sarah a chydweithwyr clinigol yn parhau i gyflwyno proses newydd o sganiau llwyfannu ar yr un diwrnod.
Fel rhan o waith clinigol Sarah, mae wedi defnyddio pob apwyntiad sganiwr sydd ar gael i ddod â'i llwyth achosion cleifion ei hun i mewn a'i reoli, ar ôl sganio 375 o gleifion ychwanegol drwy Awst 2022 i Fawrth 2023.
Mae Sarah hefyd yn mynychu Cyfarfodydd Canser Wythnosol Ysbyty Tywysoges Cymru, lle mae’n bwynt cyswllt ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch oedi neu newidiadau i ofal cleifion o fewn Radioleg.
Mae'r rôl newydd hon nid yn unig wedi bod yn fenter newydd gyffrous i bawb a gymerodd ran, ond mae eisoes wedi profi o fewn ei chwe mis cyntaf, ei bod yn uchel ei pharch a'i bod wedi gwella'r ffordd y mae gwasanaethau Radioleg yn cael eu darparu ar gyfer cleifion canser yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae cyfle pellach i ehangu'r rôl drwy'r Bwrdd Iechyd ac o bosibl adeiladu tîm o Lywyddion Radioleg ledled Cymru.
27/04/2023