Neidio i'r prif gynnwy

"Roedd yr arwyddion yno. Doedden ni ddim yn gwybod."

Mae tua un o bob pump o blant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 1 eisoes mewn cetoasidosis diabetig (DKA) pan fyddan nhw’n cyrraedd yr ysbyty. Mae DKA yn argyfwng sy'n peryglu bywyd ac sy'n digwydd pan na chaiff diabetes Math 1 ei ddiagnosio.  

I lawer o deuluoedd, roedd yr arwyddion rhybuddio yno am wythnosau, hyd yn oed misoedd. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedden nhw'n edrych arno ac roedd gan bob arwydd rhybuddio esboniad cwbl ddiniwed. 

Mae diabetes math 1 yn datblygu pan fydd system imiwnedd y corff yn ymosod ar y celloedd sy'n cynhyrchu inswlin. Yn wahanol i ddiabetes Math 2, nid yw'n gysylltiedig â diet na ffordd o fyw – gall effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw oedran, ac mae'n datblygu'n gyflym. Mae'r pedwar symptom sy’n gysylltiedig â DKA yn aml yn cael eu colli’n hawdd, neu fel arfer mae esboniad iddyn nhw, sef: blinder, colli pwysau, syched ormodol, a'r angen i basio dŵr yn aml. Mae Diabetes UK yn cyfeirio atyn nhw fel y “4 T”: Yn sychedig (thirsty), yn flinedig (tired), eisiau tŷ bach (toilet), ac yn deneuach (thinner). 

I un teulu, daeth yr argyfwng hwnnw heb rybudd – ar wyliau dramor, yng nghanol y nos, miloedd o filltiroedd o gartref. 

Stori Luc

“Dylen ni fod wedi gweld y rhybuddion.” Roedd Luc yn dilyn pob un patrwm disgwyliedig wrth i'w allu i wneud inswlin ddechrau diflannu, ond doedd gennym ni ddim syniad am ddiabetes a chollwyd bob arwydd. 

Aethon ni ar ein gwyliau teuluol i Kos. Aeth yn sâl wrth i ni gamu oddi ar yr awyren ac roedd yn sâl ac ddim eisiau bwyd. Er gwaethaf ymweliad â'r fferyllfa, doedd dim gwella arno.  

Ychydig nosweithiau i mewn i'r gwyliau fe aeth yn sâl iawn, yn gyflym iawn. Ni allai ganolbwyntio, roedd yn cael trafferth anadlu, ac yn dechrau gweld pethau. Roedden ni'n gwybod bod rhaid i ni weithredu ond roedd hi'n ganol nos, mewn gwesty, mewn lle dieithr.  

Luc a'i dad yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty yn Athens.
Cafodd ei gario i'r dderbynfa a bu’n rhaid i yrrwr tacsi caredig ein rhuthro ni i'r ysbyty wrth i mi ei ddal yn fy mreichiau, gan ei wylio'n marw. 

Galwyd y llu awyr a  chafodd ei hedfan ar awyren filwrol i Crete oherwydd bod lefelau glwcos ei waed oddi ar y raddfa. Dywedwyd wrthym nad oedden nhw’n credu y gallai oroesi'r daith i Athens. Roedd e mewn DKA a dyna oedd y tro cyntaf i'n teulu glywed y term diabetig erioed. Cawsom ein gwahanu wrth iddo gael ei gludo i’r uned gofal dwys ar ei ben ei hun. Roedd yn frwydr, ond dros yr 24 awr nesaf fe lwyddon nhw i sefydlogi lefelau glwcos ei waed ac yna, ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ces i ganiatâd i'w weld. Bron i bythefnos yn ddiweddarach, roedd yn cael gadael yr ysbyty i hedfan adref. 

 

Tasen ni ond wedi gwybod yr arwyddion. 

Roedd e wedi blino… ond roedd hi’n ddiwedd tymor haf prysur ac roedden ni’n meddwl ei fod e wedi blino’n lân o’i holl weithgareddau diwedd tymor. 

Roedd e'n denau… ond roedd disgwyl iddo dyfu’n sydyn a wnaethon ni ddim sylwi wrth i’r pwysau ostwng. 

Roedd e'n sychedig… ond roedd hi'n haf poeth ac nid oedd yfed llawer yn anarferol. 

Aeth e i'r toiled yn aml iawn. Aeth hyd yn oed dair gwaith yn ystod trip i'r sinema… ond roedd hynny oherwydd ei fod yn yfed llawer. 

Mae dwy flynedd bellach wedi mynd heibio ac mae e’n byw ei fywyd diabetes Math 1 gorau, yn brysur ym Mlwyddyn 7 ac yn mwynhau chwarae pêl-droed a dysgu karate. Roedden ni ond taith tacsi arafach i ffwrdd o'i golli a chollon ni'r arwyddion roedd ei gorff yn eu rhoi yn llwyr. Roedd yn gyfnod ofnadwy, ond gellid bod wedi'i osgoi. Rydym mor ffodus ac yn ddiolchgar am byth i'r rhai a achubodd ei fywyd ac sy'n gofalu amdano nawr.” 

Rhannodd Aimee Grimwood, Nyrs Arbenigol Arweiniol ar gyfer Diabetes Pediatrig: “Pan fydda i’n darllen straeon fel un Luc, mae fy nghalon yn mynd allan at ei deulu cyfan. Fe wnaethon nhw beth allen nhw unwaith iddyn nhw sylweddoli bod rhywbeth o'i le o ddifrif - ond fel cynifer o rieni, nid oedd ganddyn nhw unrhyw reswm i gysylltu beth roedden nhw’n ei weld â diabetes. Rydym am barhau i rannu'r neges hon i helpu pob rhiant, gwarcheidwad, aelod o'r teulu, ffrind ac athro/hyfforddwr i adnabod arwyddion a symptomau diabetes Math 1. 

Gall diabetes math 1 ddatblygu'n gyflym iawn, a gall plentyn fynd o ymddangos yn wael i fod mewn cyflwr critigol o fewn ychydig oriau.  

“Os yw eich plentyn yn anarferol o flinedig, yn colli pwysau, yn yfed mwy na’r arfer, yn mynd i’r toiled yn aml neu’n cael clytiau llawnach, peidiwch ag aros i weld – siaradwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111 Cymru”.  

“Ni ddylai unrhyw deulu orfod mynd trwy’r hyn a brofodd Luc a’i deulu, ac mae diagnosis cynnar wir yn gwneud gwahaniaeth mawr.” 

Delweddau ac adborth o ddigwyddiad chwaraeon dŵr 2025

Mae ae byw'n dda gyda diabetes Math 1 yn bosibl ac mae ein gwasanaeth Diabetes Paediatreg wedi ymrwymo i ddangos i blant nad oes rhaid i ddiagnosis eu hatal.  

Bob blwyddyn maen nhw'n trefnu digwyddiadau addysgiadol hwyliog ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, i gefnogi plant a phobl ifanc i reoli eu diabetes Math 1, tra hefyd yn cael y cyfle i wneud ffrindiau sy'n deall yn iawn beth maen nhw'n mynd drwyddo.  

Y llynedd, daeth y diwrnod chwaraeon dŵr â phobl ifanc gyda diabetes ynghyd i roi cynnig ar gaiacio, hwylio a nofio mewn dŵr agored wrth ddysgu sut i reoli eu cyflwr yn ystod gweithgaredd corfforol.  

Diolch arbennig i grwpiau cymorth lleol, Diabetic Dragons a Type-1-derful, sydd wedi cefnogi’r digwyddiadau drwy eu cyllid hael.  

Os hoffech ddysgu mwy am ddigwyddiadau sydd ar gael i chi, cysylltwch â ni: CTM.PaediatricDiabetes@wales.nhs.uk 

Am gefnogaeth a gwybodaeth am diabetes mewn plant, ewch i'n tudalen we Gwasanaeth Diabetes Paediatrig.  

 

30/03/26