Mae cyfnodau hir o dywydd poeth eithafol yn golygu peryglon iechyd difrifol.
Gall amlygiad gormodol i dymheredd uchel ladd.
Mae’r rheiny sydd yn y perygl mwyaf yn cynnwys pobl hŷn, plant ifanc iawn a phobl sydd â chyflyrau meddygol sy’n bod yn barod.
Cyngor iechyd I’r cyhoedd
Arhoswch allan o'r gwres
- Ceisiwch aros dan do, yn enwedig rhwng canol dydd a 3pm
- Dylid osgoi gweithgareddau awyr agored egnïol fel chwaraeon, DIY neu arddio. Os na fydd hynny’n bosib, gwnewch hynny yn ystod adegau mwy claear o’r dydd
- Defnyddiwch hylif gwrth-haul neu floc haul i helpu i atal llosg haul
- Gorchuddiwch eich corff â chrys t neu ddillad llad eraill
- Gwisgwch het i gysgodi eich pen a sbectol haul i amddiffyn eich llygaid
Ymoerwch
- Yfwch ddigon o ddŵr, o leiaf wyth gwydraid y dydd. Dylid osgoi alcohol, te a choffi gan y gallan nhw eich dadhydradu
- Cymrwch faddon neu gawod glaear, neu tasgwch eich wyneb â dŵr oer i ymoeri
Cadwch eich amgylchedd yn glaear
- Diffoddwch oleuadau a chyfarpar trydanol sydd ddim yn hanfodol – maen nhw’n cynhyrchu gwres
- Cadwch blanhigion tŷ a phowlenni o ddŵr yn y tŷ – mae anweddiad yn helpu i oeri’r aer
- Os yn bosib, symudwch i ystafell oerach, yn enwedig i gysgu
- Gall ffaniau trydan ddarparu peth rhyddhad, ond dylid eu defnyddio dim ond os oes angen
- Arhoswch yn rhannau oeraf yr adeilad cymaint ag sydd bosib
- Cadwch ystafelloedd yn gysgodol ac yn glaear drwy gau’r bleindiau a’r llenni ac agor ffenestri
Cadwch lygad ar eraill
- Cadwch lygad ar bobl sydd ar eu pen eu hunain, yr oedrannus, y gwael neu’r ifanc iawn a gofalwch eu bod yn gallu cadw’n oer braf
- Gofalwch nad yw babanod, plant neu bobl oedrannus yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain mewn ceir sefydlog
- Cadwch lygad ar gymdogion, teulu neu ffrindiau oedrannus neu wael bob dydd os yn bosib
- Byddwch yn wyliadwrus a ffoniwch y doctor neu’r gwasanaethau cymdeithasol os bydd rhywun yn wael neu os bydd angen help pellach
Os oes gennych broblem iechyd
- Cadwch feddyginiaethau dan 25°C neu yn yr oergell (darllenwch y cyfarwyddiadau storio ar y pecyn
- Ceisiwch gyngor meddygol os byddwch yn dioddef cyflwr iechyd cronig/yn cymryd meddyginiaethau lluosog
Darllenwch fwy am gadw'n oer a gofalu amdanoch chi'ch hun ac eraill yn y tywydd poeth yma.