Neidio i'r prif gynnwy

Rhodd gan deulu yn helpu cleifion canser y pen a'r gwddf yn y dyfodol yn CTM

Teulu Roger Thomas yn cyfarfod â'r tîm Therapi Iaith a Lleferydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Ymwelodd teulu cyn-glaf canser y pen a'r gwddf, Roger Thomas, â'r tîm a ofalodd amdano yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar i wneud rhodd er cof amdano.  

Roedd Roger yn adnabyddus i'r tîm Therapi Iaith a Lleferydd, ar ôl bod dan eu gofal ers 2013 ar ôl cael llawdriniaeth i dynnu ei flwch llais. 

Roedd gwraig Roger, Susan, ei ferched Nicole a Tania, a'i wyresau a'i or-wyres yn awyddus i gyfarfod â'r tîm i ddiolch iddynt am ei ofal, ac i wneud rhodd er cof amdano hefyd yn dilyn rhoddion caredig gan ei deulu a'i ffrindiau.  

Rhoddodd y teulu electrolaryncs (cymorth cyfathrebu) i gefnogi cleifion eraill sy'n cael llawdriniaeth debyg i Roger. 

Dywedodd Menna Payne, Arweinydd Clinigol Therapi Iaith a Lleferydd, “Roedd Roger yn gymeriad ac yn glebryn, mae’n wirioneddol arbennig ein bod ni, er cof amdano, yn gallu parhau i gefnogi cleifion i gael llais ar ôl laryngectomi. Roedd hi'n hyfryd cwrdd â Susan a'r merched a oedd yn deulu mor gefnogol drwy gydol ei daith canser, a daethom i'w hadnabod yn dda iawn. Fe wnaethon ni rannu straeon a hel atgofion am Roger ac roedd yn arbennig iawn cael yr amser hwnnw”. 

Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusen a Chynhyrchu Incwm: “Mae’r rhodd feddylgar hon yn ffordd gyffrous o anrhydeddu cof Roger, ac rydym yn ddiolchgar i’w deulu am ddewis cefnogi cleifion eraill yn y ffordd hon. Mae'n ystum o'r galon a fydd yn cael effaith barhaol.” 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi rhodd i dîm neu wasanaeth Bwrdd Iechyd lleol gysylltu â thîm Elusen GIG CTM i gael rhagor o wybodaeth ar ctm.charity@wales.nhs.uk

 

 

01/07/2025