Mae tîm sy’n rhoi cyfle teg i rieni i gadw eu babi fyddai fel arall yn cael ei roi mewn gofal wedi ennill gwobr genedlaethol am eu harloesedd.
Enillodd rhaglen Meddwl am y Baban Pen-y-bont ar Ogwr wobr ‘Ffyrdd arloesol ac ysbrydoledig o weithio’ Gofal Cymdeithasol Cymru yn y Gwobrau oherwydd ei waith gyda theuluoedd sydd mewn perygl. Enillodd rhaglen Meddwl am y Baban Pen-y-bont ar Ogwr wobr ‘Ffyrdd arloesol ac ysbrydoledig o weithio’ Gofal Cymdeithasol Cymru yn y Gwobrau oherwydd ei waith gyda theuluoedd sydd mewn perygl. Cafodd y tîm amlddisgyblaethol ei sefydlu gan y rheolwr, David Wright, wedi iddo nodi’r angen am ddarpariaeth arbenigol yn yr ardal. Mae’n cynnwys Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, Ymwelydd Iechyd Arbenigol a Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd sy’n darparu cymorth i deuluoedd cyn ac ar ôl genedigaeth.
Nod sefydlu’r rhaglen Meddwl am y Baban oedd gwella canlyniadau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor, a lleihau’r nifer o orchmynion gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr. A diolch i’w ymyrraeth gynnar – sy’n cynnwys cyngor am fwydo ar y fron, rhoi’r gorau i ysmygu, tylino babanod, cynllunio diogelwch a chymorth ymarferol â thai a budd-daliadau – mae wedi llwyddo i gadw teuluoedd gyda’i gilydd mewn 86% o achosion. Mae’r tîm yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac asiantaethau gofal iechyd a chymdeithasol eraill.
Dywedodd David, aeth i’r noson wobrwyo ar-lein gyda’r ymgynghorydd Rachel Evans yn gynharach yn y mis: “Mae’r tîm a’r awdurdod lleol yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth ar ffurf Gwobr gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Mae’n adlewyrchu’r gwaith caled a heriol y mae’r tîm wedi bod yn ei wneud dros ein teuluoedd sydd mewn perygl fwyaf.
“Mae ymroddiad ac ymrwymiad y tîm wrth weithio mewn partneriaeth â’r teuluoedd, gweithwyr cymdeithasol a chydweithwyr eraill ym maes iechyd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn, ac mae’r Wobr yn ffordd arbennig o ddathlu eu holl waith.”
Ychwanegodd yr Ymwelydd Iechyd Arbenigol, Sarah Terrett: “Rydyn ni ar ben ein digon i gael y wobr! Mae hyn yn enghraifft arbennig o waith amlddisgyblaethol effeithiol all arwain at gyfleoedd sy’n newid bywyd teuluoedd yn ein cymunedau.”
Mae’r Gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith arbennig mewn gofal cymdeithasol, gwaith blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae’r wobr arloesedd yn cael ei rhoi i dîm sy’n rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio. Mae cymorth cyn-geni rhaglen Meddwl am y Baban Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys ymweliadau wythnosol, ymyriadau ar sail tystiolaeth a mynychu grwpiau babanod a magu plant. Mae’r cymorth ar ôl genedigaeth yn cynnwys ymweliadau dyddiol hyblyg (gan gynnwys ar benwythnosau), cymorth ymarferol ac emosiynol, grŵp lles gyda’r ymwelydd iechyd ac adolygiadau bob pythefnos.
Dyma ychydig o'r adborth a dderbynion ni o deuluoedd sy’n cael cymorth gan y rhaglen Meddwl am y Baban:
“Heb yr holl gymorth ges i mae’n debyg na fyddwn i yn y sefyllfa rydw i heddiw. Dwi’n ddiolchgar iawn. Aeth fy ngweithiwr cymorth tu hwnt i’r disgwyl i fy helpu i a fy mab.”
“Ces i, fy mhartner a fy merch gymorth oedd yn tawelu ein meddwl ac yn ein sicrhau bod popeth yn mynd i fod yn iawn. Roedden nhw’n help mawr.”
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Meddwl am y Baban Pen-y-bont ar Ogwr a’r gwobrau, gwyliwch y fideo Youtube hwn.
Llun (o’r chwith i’r dde)
Taryn Davies, Gweithiwr Cymorth Teuluoedd, Rachel Evans (yn dal y wobr), Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, Gemma Bevan, Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd, a Sarah Terrett, Ymwelydd Iechyd Arbenigol. Mae’r Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd, Anna Challenger, yn rhan o’r tîm hefyd.