Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen dal i fyny brechu plant i ddigwydd dros wyliau'r haf

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal rhaglen frechu dal i fyny i blant dros wyliau'r ysgol rhwng 4ydd a 22ain Awst.

Bydd ein gwasanaeth Brechiadau ac Imiwneiddio yn cysylltu â rhieni pob plentyn oedran ysgol a allai fod wedi methu un o'r brechlynnau canlynol i'w gwahodd i un o'n Canolfannau Brechu Cymunedol (CVCs) ar draws CTM:

  • Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR)
    Fel arfer, mae’r brechiad hwn yn cael ei rhoi yn 12 mis oed a 3 blynedd a 4 mis oed yn eich meddygfa ac mae'n frechlyn dau ddos. Mae'r brechlyn MMR yn rhoi amddiffyniad rhag y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela. Mae'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela yn glefydau heintus iawn sy'n gallu lledaenu'n hawdd rhwng pobl nad ydyn nhw wedi'u brechu.
     
  • Papilomafirws Dynol (HPV)
    Fel arfer, mae hyn yn cael ei rhoi ym mlwyddyn ysgol 8 (12/13 oed) gan wasanaeth nyrsio'r ysgol. Mae'r brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn bechgyn a merched rhag canserau sy'n gysylltiedig â HPV.
     
  • Grwpiau meningococol A, C, W ac Y (MenACWY)
    Fel arfer, mae’r brechiad hwn yn cael ei roi ym mlwyddyn ysgol 9 (13/14 oed) gan wasanaeth nyrsio'r ysgol. Mae'r brechiad hwn yn darparu amddiffyniad rhag meningitis a septisemia sy’n cael eu hachosi gan bedwar grŵp o facteria meningococol – A, C, W ac Y.
     
  • Tetanws, Difftheria a Polio (Td/IVP)
    Fel arfer, mae’r brechiad hwn yn cael ei roi ym mlwyddyn ysgol 9 (13/14 oed) gan wasanaeth nyrsio'r ysgol. Mae'r brechiad hwn yn cwblhau'r cwrs 5 dos a fydd yn rhoi amddiffyniad gydol oes i'r rhan fwyaf o bobl yn erbyn tetanws, difftheria a pholio.

Rydym yn gofyn, os cewch wahoddiad i fynychu am frechiad, eich bod yn manteisio ar y cynnig gan fod brechlynnau'n bwysig iawn wrth atal plant rhag mynd yn sâl iawn a hyd yn oed achub bywydau.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechiadau hyn a'r heintiau y maen nhw’n amddiffyn rhagddyn nhw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Os na chewch wahoddiad ond eich bod yn credu bod eich plentyn wedi methu un o'r brechlynnau hyn, cysylltwch â'r gwasanaeth Brechiadau ac Imiwneiddio ar 01685 726464 (Dydd Llun i Dydd Gwener, 9am – 5pm).

17/07/2025