Mae bydwragedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi mynd ati mewn ffordd arloesol i wneud yn siŵr bod menywod yn yr ardal sydd am roi genedigaeth mewn dŵr yn eu cartref yn gallu gwneud hynny.
Cafodd Ffion Williams, sy’n fydwraig yn Ysbyty Tywysoges Cymru, syniad o godi arian at yr achos ar ôl sylweddoli nad oedd llawer o fenywod yn gallu fforddio'r offer angenrheidiol er mwyn rhoi genedigaeth mewn dŵr yn eu cartref.
Dyma hi’n egluro: “I rai teuluoedd, mae diffyg arian yn golygu bod rhai opsiynau geni, fel rhoi genedigaeth mewn dŵr yn y cartref, allan o’u cyrraedd.
“Mae genedigaeth mewn dŵr yn y cartref yn ffordd hyfryd o groesawu babanod i’r byd ac mae’r fam yn gallu aros yn ei hamgylchedd hamddenol ei hun. Roedd y ffaith fod rhai menywod ddim yn gallu gwneud hyn oherwydd eu sefyllfa ariannol wedi peri pryder mawr i mi.”
Lansiodd Ffion y raffl am bwll geni er mwyn galluogi pob menyw, waeth beth yw eu cefndir na’u sefyllfa ariannol, i roi genedigaeth mewn dŵr yn eu cartref os byddan nhw am wneud hynny.
Aethon nhw at fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gael gwobrau ac i werthu tocynnau ar gyfer rhoddion ledled yr ardal.
Roedd angen sawl pwll ar gyfer mwy nag un fenyw pe baen nhw’n disgwyl ar adegau tebyg, yn ogystal â leininau a phibelli wrth gefn rhag ofn na fyddai teuluoedd yn gallu fforddio'r pethau angenrheidiol.
“Roedd hi’n hynod emosiynol gweld caredigrwydd yr holl fusnesau a’r gwobrau gafodd eu rhoi ganddyn nhw at yr achos anhygoel hwn,” yn ôl Ffion. “Rhoddodd Bumps n Babies ym Mhen-y-bont ar Ogwr system deithio gyfan, a chafodd hon ei hennill gan fam hyfryd a roddodd enedigaeth i’w babi ar yr un diwrnod!”
Ymhlith y busnesau eraill a roddodd yn hael ac sy’n haeddu diolch enfawr, mae:
Tea and Lemon Co., Amy Louise FM Fragrances, Mother Earth Birthing, One O’ Clock Gate, The Yoga and Hypnobirthing Midwife, Food with Flora, Babyprints South Wales a Madame 2 Swords.
Yn ogystal â hynny, cynigiodd Nathan Deere, sy’n dad yn y gymuned oedd yn disgwyl ei blentyn yn fuan, redeg pedair milltir bob pedair awr am 48 awr i godi arian ar gyfer y pyllau geni.
Gyda'i gilydd, llwyddon nhw i godi £1,190 ac erbyn hyn mae ganddyn nhw dri phwll geni, pympiau chwyddo trydanol, pympiau dŵr a'r holl fathau eraill o offer sydd eu hangen.
Meddai Ffion: “Dwi methu aros i allu cynnig y pyllau hyn i fenywod. Rydyn ni wedi cael llawer o geisiadau amdanyn nhw hyd yn hyn, gan gynnwys cais gan fenyw sy’n feichiog ers cyn lleied ag wyth wythnos! Gobeithio y bydd hyn yn gwneud yn siŵr na fydd sefyllfa ariannol unrhyw fenyw yn effeithio ar eu dewis ddull o roi genedigaeth.”