Mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn falch o fod y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i ddatblygu a gweithredu polisi colli babi yn ystod beichiogrwydd ar gyfer ei staff. Mae'n cynnig absenoldeb â thâl oherwydd profedigaeth i unrhyw un o'i gweithwyr sy'n dioddef ar ôl colli babi yn ystod beichiogrwydd, p'un a fydd hynny’n digwydd yn uniongyrchol iddyn nhw neu i'w partner.
Mae colli babi yn ystod beichiogrwydd yn dal i fod yn rhywbeth dydy llawer o bobl ddim yn teimlo'n gyfforddus yn dweud wrth eu rheolwr amdano, na siarad yn agored amdano yn y gweithle. Y gobaith yw y bydd y polisi blaengar hwn yn cyfrannu rywfaint at dorri'r tabŵ hwnnw.
Yn anffodus, mae colli babi yn ystod beichiogrwydd yn fwy cyffredin nag y mae pobl yn ei feddwl, ac mae’n digwydd mewn cynifer ag un o bob pedwar beichiogrwydd. Mae pawb yn y Bwrdd Iechyd sydd wedi cyfrannu at ysgrifennu a gweithredu’r polisi hwn wedi cael profiad o golli babi yn ystod beichiogrwydd.
Arweiniodd Karen Wright, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Llywodraethu a Chydymffurfio CTM y gwaith o greu’r polisi hwn, ac meddai hi: “Colli babi yn ystod beichiogrwydd yw un o'r tabŵs sy’n dal i fodoli yn y gwaith Mae’n debyg i ryw raddau i'r menopos, sef pwnc dydy pobl ddim yn siarad rhyw lawer amdano.
“Ces i sawl camesgoriad. Ces i tua chwech ohonyn nhw. Ddywedais i ddim wrth neb yn y gwaith beth oedd wedi digwydd tan fy mhumed camesgoriad.
“Digwyddon nhw’n eithaf cyflym, o fewn cyfnod o dair blynedd, a chafodd hynny effaith ddinistriol arna i.
“Nid dim ond arna i, ond ar fy ngŵr hefyd, a hynny o bosib hyd yn oed yn fwy. Mae'n gymeriad eithaf cadarn, ond chwalodd e’n llwyr yn ystod fy nhrydydd camesgoriad, rwy'n credu.
“Criodd a chriodd, a doedd e ddim yn un am wneud hynny. Criodd e am ddyddiau.
“Ces i fy nghamesgoriad un diwrnod, ac es i'r gwaith drannoeth. Doeddwn i ddim am ddweud wrth fy rheolwr, a hyd yn hyn, dyna oedd y realiti i lawer o bobl.
“Roedd fy ngŵr yr un peth. Aeth e’n syth yn ôl i'r gwaith hefyd.
“Fel tîm, fel Bwrdd Iechyd, dydyn ni ddim am i'n staff deimlo fel hynny.”
Mae'r polisi newydd hwn yn golygu bod hawl i ddeg diwrnod gwaith o absenoldeb â thâl gydag unrhyw un sydd wedi dioddef ar ôl colli babi yn ystod beichiogrwydd, naill ai'n uniongyrchol neu fel partner (cyn 24 wythnos). Does dim rhaid cymryd y deg diwrnod yn olynol, a bydd gweithwyr yn cael amser i ffwrdd â thâl ar gyfer apwyntiadau meddygol sy'n ymwneud â cholli babi yn ystod beichiogrwydd, boed hynny ar eu cyfer nhw neu i fynd gyda'u partner.
Roedd colli babi ar ôl 24 wythnos eisoes wedi ei gynnwys ym Mholisi Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu a Benthyg Croth CTM.
Meddai Karen Wright: “Rwy'n credu mai'r realiti i mi oedd fy mod yn anwybyddu beth ddigwyddodd ers rhyw ddeng mlynedd. Roeddwn i'n ei ystyried yn ddigwyddiad arall yn fy mywyd.
“Yna roedd problemau iechyd meddwl gyda fi, a phan siaradais â gweithiwr proffesiynol, roedd y cyfan yn deillio o fy nghamesgoriadau.
“Dydw i, a dydyn ni fel Bwrdd Iechyd, ddim am i ni, ein staff na'u partneriaid deimlo fel hynny.
“Ces i ddiweddglo hapus.
“Dwi wedi mabwysiadu mab anhygoel, a dwi'n meddwl mai dyna beth oedd fy nhynged. Alla i ddim dychmygu fy mywyd hebddo.
Mae Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl CTM, Hywel Daniel, wedi bod yn allweddol yn hyn ac wrth ddatblygu polisïau blaengar eraill sydd wedi eu cyflwyno i'r Bwrdd Iechyd yn ddiweddar. Meddai ef: “Mae hyn yn ymwneud â ni, fel Bwrdd Iechyd, yn rhoi cymorth i bobl pan fydd pethau anodd yn digwydd yn eu bywyd.
“Dwi wedi cael profiad o hyn yn bersonol ar ddau achlysur fel tad, ac wedi cael cipolwg ar ba mor anodd mae’n gallu bod.
“Rwy'n awyddus i ganolbwyntio’n fwy ar unigolion wrth roi cymorth i’n 13,000 o bobl, ac mae'r polisi newydd hwn yn ffordd o wneud hyn. Rwy'n falch o fod yn cyflwyno'r polisi hwn.
“Fy ngobaith yw y bydd y polisi hwn yn annog pobl, beth bynnag yw eu rhywedd, i fod yn agored a siarad am golli babi yn ystod beichiogrwydd, a'n helpu ni i gyd i chwalu beth sy’n cael ei ystyried yn bwnc tabŵ. Fodd bynnag, mae’n hanfodol ei fod yn darparu'r math cywir o gymorth lles ac amser i ffwrdd o'r gwaith i bobl sy'n dioddef y golled hon.
“Rydw i am i'n holl bobl deimlo'n gyfforddus gymaint fel pe baech chi’n colli babi yn ystod beichiogrwydd, bydd modd i chi ymddiried yn eich rheolwr, yn eich cydweithwyr ac ynom ni fel Bwrdd Iechyd, a gofyn am gymorth a chael y cymorth hwnnw.”