Mae therapi cerddoriaeth wedi cael cymeradwyaeth gan gleifion yn Ysbyty Cwm Rhondda, ar ôl i biano cyngerdd bach gael ei roddi i’w ystafell ddydd yn dilyn ymgyrch gymunedol ar Twitter.
Cafodd y piano ei roddi i ystafell ddydd Ward 3 gan Ysgol Gymuned Glynrhedynog, pan welodd ei phennaeth cerddoriaeth, Lauren Beale, bost ar y cyfryngau cymdeithasol gan yr Aelod o’r Senedd dros y Rhondda, Leanne Wood. Roedd Ms Wood wedi rhannu apêl gan reolwr y ward a’r cerddor clasurol Nikkita Williams a’r geriatregydd ymgynghorol Dr Raja Biswas. Roedden nhw’n awyddus i weld yr ystafell ddydd yn cael ei hailddefnyddio eto ar ôl ton gyntaf COVID-19 ac roedden nhw’n cydnabod y manteision y gallai cerddoriaeth eu cynnig.
Roedd y piano cyngerdd bach yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol yn ystod gwersi cerddoriaeth ac roedd yr athrawon a’r disgyblion yn gwirioni arno, ond roedd y staff yn cydnabod pa mor werthfawr allai’r piano fod i’r ysbyty. Cafodd seremoni ei chynnal i’r staff a’r cleifion, gyda phawb yn cadw pellter cymdeithasol. Roedd Ms Beale a Ms Wood yn westeion arbennig a chafwyd perfformiad hyfryd gan Ms Williams, sy’n gyn-Gerddor Ifanc y Flwyddyn ym Mlaenau Gwent.
Meddai Ms Williams: “Ar ôl i ni oroesi trafferthion cynnar y pandemig, rwy’n credu ein bod ni mewn sefyllfa erbyn hyn i ddatblygu’r ystafell hyfryd hon. Y peth cyntaf i mi ei wneud oedd dod o hyd i biano a chysylltu â’r prifysgolion, byd y celfyddydau a therapyddion cerdd.
“Roedden ni’n ceisio dod o hyd ar Twitter i biano oedd ddim yn cael ei ddefnyddio a rhannodd Leanne Wood y trydar. O fewn 12 awr, cawsom ni dri chynnig, gan gynnwys cynnig piano cyngerdd bach gan Ysgol Gymuned Glynrhedynog! Helpodd Leanne i ddod o hyd i rywun oedd yn gallu cludo’r piano i ni hefyd, felly roedd yr ymateb gan y gymuned yn wych, ac yn eithaf syfrdanol a dweud y gwir. Dechrau taith yw hyn ac rwy’n gobeithio y bydd y daith yn parhau i lwyddo.”
Meddai Ms Wood: “Mae gweld y ffordd mae cymunedau’r Rhondda wedi dod at ei gilydd yn ystod adegau anodd wedi bod yn anhygoel. Yn gyntaf roedd y llifogydd, yna daeth pobl at ei gilydd i wirfoddoli pan ddaeth argyfwng COVID-19, ac yna, pan ofynnwyd i ni wneud apêl am biano, o bob peth, daeth y gymuned at ei gilydd eto.
“O fewn oriau, cafodd tri phiano gwahanol eu cynnig a nawr mae piano cyngerdd bach gyda ni, diolch i Ysgol Glynrhedynog – o un sefydliad cymunedol anhygoel i un arall, yma yn ein hysbyty. Mae’n braf gen i fod yma a dathlu’r cyflawniad cymunedol gwych hwn.”
Meddai Ms Beale: “Rydyn ni wedi cael diwrnod anhygoel yma yn dathlu’r cyfle hwn. Mae’n braf gallu rhoi yn ôl i’r gymuned a byddwn ni’n sicr o gydweithio yn y dyfodol a dod â’r ysbryd cerddorol yma.”
Erbyn hyn, mae Ms Williams hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ym myd y celfyddydau i greu rhaglen o therapïau cerdd a synau ar Ward 3, yn dibynnu ar y cyfyngiadau oherwydd COVID-19, ac mae hi’n cysylltu â myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Yn ogystal â hynny, daeth Dr Biswas â chwaraeydd recordiau a hen recordiau ar gyfer yr ystafell ddydd. Roedd y chwaraeydd yn edrych yn hen, ond roedd porth USB gydag ef er mwyn i’r cleifion chwarae eu cerddoriaeth eu hun.
“Mae pawb yn gwybod bod therapi cerddoriaeth yn effeithiol,” meddai Dr Biswas. “Pan fyddwn ni’n anghofio pethau, mae cerddoriaeth yn gallu ein helpu ni i hel atgofion. Rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel gan gymuned y Rhondda. Maen nhw wedi dod at ei gilydd i roddi’r piano hwn ac rwy’n credu y bydd hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i’r ward.”