Mae Ysbyty Cwm Cynon yn rhan o draddodiad balch o wasanaethau iechyd cymunedol yng Nghymru. Cafodd ei adeiladu i gymryd lle tri ysbyty lleol; Aberdâr, Aberpennar a Santes Tudful. Croesawodd ei gleifion cyntaf 10 mlynedd yn ôl ar 21 ac 22 Ebrill (2012) a'i ymwelwyr cyntaf ar 23 Ebrill.
I ddathlu ei benblwydd yn 10 oed, cafodd y staff a’r cleifion ar yr holl wardiau de a chacennau. Bydd y dathliad yn parhau gyda seremoni plannu coed i nodi'r penblwydd a Jiwbilî'r Frenhines yn ystod misoedd yr haf.
Meddai Julia Wilkinson, Rheolwr y Grŵp Gwasanaethau Clinigol ar gyfer Iechyd Cymunedol: "Er bod llawer o bethau wedi newid ym maes iechyd dros y blynyddoedd diwethaf, mae cymuned gref wedi bod gydag Ysbyty Cwm Cynon ers am byth sy'n cefnogi'r ysbyty, ei staff a'i gleifion. Cafodd hyn ei bwysleisio yn ystod pandemig COVID-19, pan ddaeth pawb at ei gilydd i wneud yn siŵr fod gwasanaethau’n parhau i redeg er mwyn cefnogi ein cymuned leol."
Meddai Keith Powell, Rheolwr Busnes yr ysbytai cymunedol: "Symudais i o Ysbyty Cyffredinol Aberdâr i Ysbyty Cwm Cynon 10 mlynedd yn ôl yr wythnos hon, ac er roedd y staff yn ansicr ar y pryd ynglŷn â beth fyddai argraff yr ysbyty newydd ar y gymuned, mae hyn wedi bod yn gam mawr ymlaen. Mae'r adeilad a'r gerddi prydferth wedi bod yn ganolbwynt i'r gymuned. Gyda'r atriwm enfawr ger y prif ddrysau, rydyn ni wedi llwyddo i gynnal llawer o ddigwyddiadau fel corau, stondinau celf a chrefft a pherfformiadau gan ysgolion lleol, lle rydyn ni wedi gwahodd y gymuned i'r ysbyty i ddod a mwynhau beth rydyn ni wedi ei wneud yn ogystal â diddanu ein cleifion. Edrychwn ymlaen at ddychwelyd i'r arfer i ddod ag Ysbyty Cwm Cynon yn fyw unwaith eto."