Mae meddyg ymgynghorol blaenllaw ym maes canser o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn erfyn ar bobl gyda symptomau pryderus o ganser i fynd i weld eu meddyg teulu ac i gadw eu hapwyntiadau am brofion a thriniaeth, a hynny er gwaethaf y cyfnod clo.
Mae’r Obstetrydd a’r Gynaecolegydd Ymgynghorol, Sean Watermeyer, sy’n Arweinydd Clinigol ar gyfer Canserau Gynaecolegol Rhondda Taf ac Elái i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn gofyn i bob preswylydd lleol sy’n poeni am lympiau amheus, colli pwysau heb esboniad, blinder eithafol neu boen newydd a pharhaus gysylltu â’u meddyg teulu ac i beidio anwybyddu eu pryderon tra byddwn ni o dan gyfyngiadau Lefel 4.
“Rydyn ni’n ymwybodol iawn bod llawer llai o bobl wedi ceisio cymorth meddygol am broblemau iechyd difrifol ers dechrau’r pandemig y llynedd, nid yn unig am eu bod yn ofni dal y feirws ond hefyd oherwydd eu bod yn ofni rhoi’r meddygon a’r nyrsys dan ragor o bwysau” meddai.
“Rydyn ni am i bobl wybod, er gwaethaf yr heriau enfawr rydyn ni wedi eu hwynebu trwy gydol y pandemig, nad yw ein gwasanaethau archwilio, sgrinio a thriniaeth ar gyfer canser wedi dod i ben. Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i gynnal triniaethau canser, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio’n ddiflino er mwyn gwneud yn siŵr fod modd darparu gofal canser wedi’i gynllunio yn ôl cynlluniau triniaeth cleifion.
“Wrth reswm, rydyn ni wedi gorfod gwneud ychydig o newidiadau i’n gwasanaethau, ond mae’r rhan fwyaf o ofal canser wedi parhau fel y cynlluniwyd, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio’n ddi-ball er mwyn gwneud yn siŵr bod ein safleoedd mor ddiogel â phosibl. Fodd bynnag, ein pryder ni yw bod llai o bobl wedi eu hatgyfeirio atom ni ers mis Mawrth diwethaf. Mae hyn yn awgrymu bod yna bobl sydd gyda symptomau ond sydd ddim yn dod atom ni i gael diagnosis.”
Mae mesurau sylweddol wedi'u rhoi ar waith ar draws y GIG yn ystod y pandemig i sicrhau y gall y rhai sydd angen gofal ei gael o hyd a'i gael yn ddiogel. Mae meddygon teulu ar draws rhanbarth y bwrdd iechyd i gyd yn cynnig apwyntiadau ffôn a digidol, er mwyn osgoi ymweliadau diangen â'r feddygfa, ac mae gan bob lleoliad iechyd y mesurau pellhau cymdeithasol angenrheidiol, hylendid dwylo, dadheintio wyneb, awyru a defnyddio PPE i sicrhau cleifion a staff. diogelwch.
Dywedodd Mr Watermeyer ei fod yn gwybod y gall poeni am symptomau achosi cryn straen, ac felly dywedodd y gall cysylltu â meddyg teulu roi tawelwch meddwl i bobl.
“I’r rhan fwyaf o bobl sy’n mynd at eu meddyg teulu gyda symptomau neu sy’n cael prawf sgrinio neu archwiliadau, does dim canser gyda nhw. Os ydych chi’n poeni felly, y tebygolrwydd yw y bydd popeth yn iawn.
“Fodd bynnag, os bydd rhywbeth mwy difrifol yn bod, po gynharaf y cewch chi wybod, cynharaf y gallwch chi gael y driniaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnoch chi a bydd y tebygolrwydd y byddwch chi’n gwella’n uwch. Fydd anwybyddu’r symptomau yn sicr ddim yn gwneud iddyn nhw ddiflannu. Os ydych chi’n poeni felly, rydw i’n erfyn arnoch chi i siarad â’ch meddyg teulu.”
Ynghyd ag annog pobl i drafod eu pryderon iechyd, mae Mr Watermeyer hefyd yn awyddus i wneud yn siŵr bod y cleifion hynny yn yr ardal sydd wedi cael diagnosis o ganser yn barod yn cadw at eu hapwyntiadau sydd wedi eu trefnu.
“Rydyn ni wedi gweld sawl achos lle mae cleifion canser yn colli apwyntiadau neu’n gofyn am i driniaethau a drefnwyd gael eu gohirio, am eu bod yn poeni am ddod i mewn i’r ysbyty ar yr adeg hon. Er ein bod yn deall eu pryderon, rydyn ni am dawelu meddwl y cleifion hynny trwy nodi ein bod wedi cyflwyno trefniadau glanhau llawer mwy trylwyr ym mhob man clinigol trwy gydol y pandemig, a’n bod ni wedi gwella ein gweithdrefnau atal a rheoli heintiau er mwyn cadw cleifion mor ddiogel â phosibl. g pawb felly i gadw at eu hapwyntiadau os gallan nhw.”
Yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru sef Helpwch Ni i’ch Helpu Chimae’r Bwrdd Iechyd yn awyddus i dawelu meddwl preswylwyr lleol trwy nodi y gallan nhw ddefnyddio gwasanaethau’r GIG o hyd, ond mae angen bod yn gall am sut maen nhw’n gwneud hynny.
“Does dim dwywaith bod ein staff a’n gwasanaethau wedi bod dan bwysau aruthrol dros y flwyddyn ddiwethaf, ond ddylai hyn ddim atal pobl rhag trafod unrhyw bryderon sydd gyda nhw. Gall fod canlyniadau difrifol iawn i anwybyddu problemau iechyd, a hynny nawr ac yn y dyfodol, a bydd hyn yn golygu y bydd y baich ar y GIG yn drymach o lawer yn y pendraw os caiff y broblem ei gadael i waethygu i fod yn fod rhywbeth mwy difrifol.
“Mae’n ystadegyn sobreiddiol, ond bydd 1 ym mhob 2 yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod ei oes. Gall newidiadau heb eu hesbonio i brosesau arferol eich corff fod yn arwydd weithiau bod canser gyda chi, ond gall sylwi ar yr arwyddion yn gynnar wella’r tebygolrwydd y byddwch chi’n goroesi. Chi sy’n gwybod orau pan ddaw i’ch corff eich hun, felly siaradwch â’ch meddyg teulu os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau pryderus i’ch iechyd yn ystod y cyfnod clo. Helpwch ni i’ch helpu chi a chysylltwch â’ch meddyg teulu heddiw.
“Rydw i’n teimlo’n ffodus iawn” meddai mam o Bontyclun, oedd wedi cael llawdriniaeth ar gyfer canser y fron yn wythnos gyntaf y cyfnod clo ym mis Mawrth.
“Fydda i byth yn anghofio’r foment yna pan newidiodd fy mywyd am byth”, meddai Cath Palmer, 48, o Bontyclun. Yn briod i Guy ac yn fam i Lauren sy’n 11 oed, mae Cath yn gerddor clasurol mewn cerddorfa broffesiynol yng Nghaerdydd. Fis Chwefror y llynedd, daeth hi o hyd i lwmp yn ei chesail pan oedd yn y gawod, ac aeth hi’n syth i gael cyngor.
“Wrth sylwi ar newid yn eu corff, greddf llawer o bobl yw claddu eu pen yn y tywod a cheisio anwybyddu’r symptomau, ond roeddwn i’n gwybod yn reddfol nad oedd rhywbeth yn iawn felly trefnais i apwyntiad â meddyg teulu yn ddi-oed.
“Gwnaeth e fy atgyfeirio at Radioleg, a ches i wybod bod canser y fron gyda fi yn dilyn fy sgan uwchsain ar 18 Chwefror. Cafodd fy myd ei chwalu. Dydych chi byth yn meddwl y byddai rhywbeth fel hyn yn gallu digwydd i chi.
“Diolch byth, roedd fy ngŵr gyda mi ar y pwynt hwnnw gan nad oedd y pandemig wedi gafael eto ond dyna’r tro olaf i mi gael unrhyw un arall gyda mi trwy gydol fy nhriniaeth, sydd wedi bod yn anodd.
“Cefais fy meddygfa ar y fron yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddydd Gwener 27 Mawrth, dridiau ar ôl i’r wlad gyfan fynd i mewn i gloi cenedlaethol. Roedd yn hollol swrrealaidd. Roedd yn rhaid i mi fynd i mewn i gyd ar fy mhen fy hun ac roedd y lle'n anghyfannedd. Dim ond pedwar claf oedd ar y ward gyfan, un ym mhob ystafell, ac roedd yr holl feddygon a nyrsys benben â PPE. Roedd y staff yn anhygoel, ac er bod y profiad yn frawychus, cefais fy sicrhau ar bob cam o'r driniaeth ac yn ffodus, aeth y feddygfa'n dda. Cefais fy anfon adref drannoeth gyda draen i mewn a chefais ymweliadau gan y Nyrs Ardal dros yr wythnosau nesaf.
“Yn anffodus, mae’n ganser ymosodol, gradd 3 ac mae wedi’i ledaenu i’m nodau lymff, felly bu’n rhaid i mi gael triniaeth bellach. Cefais dair wythnos o radiotherapi ac yna diolch byth, fe wnes i gymhwyso ar gyfer treial clinigol ar gyfer triniaeth hormonaidd sy'n debygol o fod yn fwy effeithiol nag y byddai cemotherapi wedi bod ar gyfer fy math penodol o ganser.
“Trwy gydol y pandemig, rydw i wedi gorfod mynd i’r feddygfa am bigiad bob tri mis, ac i’r ysbyty bob chwe mis am arllwysiad neu ‘infusion’, a galla i ddweud yn onest nad ydw i erioed wedi teimlo’n anniogel neu fy mod i mewn perygl o ddal Covid, gan fod y GIG wedi cymryd pob cam diogelwch posibl. Mae’r tîm sydd wedi bod yn edrych ar fy ôl i wedi bod yn wych trwy gydol popeth, ac alla i ddim diolch iddyn nhw ddigon.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hunllef erchyll, a dydw i ddim wir yn gwybod sut des i drwyddi, ond mae fy nheulu, fy ffrindiau a fy nhîm canser wedi bod yn anhygoel o gefnogol. Rydw i’n teimlo’n hynod o lwcus fy mod i wedi dod o hyd i fy nhiwmor yn gynnar, a fy mod i wedi gallu parhau â fy nhriniaeth fel y cynlluniwyd trwy gydol y cyfnod clo a hynny heb unrhyw oedi a heb i unrhyw apwyntiadau gael eu canslo.
“Dydw i ddim yn gwybod a fyddwn i wedi mynd i weld fy meddyg ar gymaint o frys petaswn i wedi dod o hyd i’r lwmp yn ystod y cyfnod clo, ond fy neges i unrhyw un sydd wedi sylwi ar newid yn unrhyw ran o’r corff yw: paid gadael i’r pandemig dy atal di rhag cael cyngor amdano. Efallai eich bod chi ddim am wynebu beth sy’n digwydd, ac efallai y bydd temtasiwn i beidio ceisio cymorth, ond os mai canser ydy hi, fydd hi ddim yn diflannu ohoni’i hun. Cofiwch fod modd trin canserau sy’n cael eu canfod yn gynnar yn aml iawn. Petaswn i ddim wedi gwneud apwyntiad cyn gynted ag y des i o hyd i’r lwmp, mae’n bosibl y byddai fy hanes wedi bod yn wahanol iawn ac mae’n erchyll meddwl am beth allai fod wedi digwydd.”