Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs CTM yn ennill gwobr 'Simply Marvellous'

Mae nyrs arbenigol methiant y galon Tywysoges Cymru, Moira Ashton, wedi cael ei henwebu gan gymuned y cleifion ac wedi ennill a 'Rydych chi'n syml yn Rhyfeddol' gwobr.

Mae’r wobr yn dathlu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled y DU sydd wedi cael eu hanrhydeddu gan gleifion am safon eithriadol eu gofal a’u triniaeth. Mae’r wobr, sy’n cael ei noddi gan y Pumping Marvellous Foundation, yn dathlu beth mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn yn ei gynnig wrth drin methiant y galon, gan wella canlyniadau i gleifion ledled y DU.

Mae’r wobr, sy’n cael ei dyfarnu ar sail profiad cleifion unigol, yn adlewyrchu effaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gymuned leol, gan ddarparu gofal o’r safon uchaf i’w cleifion.

Un o’r cleifion methiant y galon a oedd wedi canmol Moira Ashton oedd Teresa Rogers. Dywedodd: “Cyn iddi fod yn nyrs i fi, roeddwn i wedi cwrdd â hi fis Ionawr yn ystafell aros y clinig dan arweiniad fferyllwyr, pan oeddwn yn aros yno i gael cynyddu dos fy moddion. Cymerodd hi’r amser i siarad â fi a fy mhartner ac i helpu i’n haddysgu am fethiant y galon a hunanreolaeth (doedd neb wedi gwneud hyn yn y 4 mis ers i fi gael diagnosis). Rhoddodd hi adnoddau i fi er mwyn fy helpu i esbonio methiant y galon i fy mab, a rhoddodd fanylion i fi am y gymuned hyfryd sydd yma. Ar ôl i fy symptomau waethygu, hi oedd fy Nyrs Methiant y Galon, ac roedd hi’n cofio siarad â fi yn y clinig. Mae hi’n ddigynnwrf ac yn tawelu fy meddwl bob tro rydw i’n siarad â hi. Yn ystod y cyfnod clo pan roedd cyfyngiadau ar wasanaethau yn yr ysbyty, trefnodd hi newidiadau i fy moddion a phrofion gwaed, a gwnaeth hi hyd yn oed drefnu prawf Ecocardiogram ac adolygiad gan ymgynghorydd mewn ysbyty cyfagos lle doedd dim achosion o COVID-19. Mae bob tro amser gyda hi i drafod unrhyw bryderon sydd gyda fi, ni waeth pa mor ddibwys ydyn nhw; dwi byth yn teimlo fel bod brys pan fydda i’n siarad â hi, er gwaetha’r ffaith ei bod yn eithriadol o brysur! Dwi ddim yn gwybod lle y byddwn i hebddi.”

Fel cynrychiolydd llais cleifion methiant y galon yn y DU, mae’r Pumping Marvellous Foundation yn pwysleisio pwysigrwydd safbwynt y claf wrth ddathlu a gwobrwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r gwobrau hyn yn arbennig o berthnasol yn 2020, pan mae nifer o gleifion methiant y galon wedi wynebu amgylchiadau hynod o heriol.

“Rydyn ni wrth ein boddau bod ein cleifion wedi dewis Moira Ashton i dderbyn y wobr flynyddol hon gan yr elusen. Mae hi mor bwysig bod cleifion a’u teuluoedd yn gallu gweithio fel tîm gyda’u gweithiwr iechyd proffesiynol, ac roedd Moira Ashton yn un o ddim ond 5 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gafodd eu henwebu ledled y DU gan gleifion yr elusen. Mae hyn yn gyflawniad gwych, a dylai’r 5 gweithiwr gofal iechyd proffesiynol deimlo’n falch,” esboniodd Nick Hartshorne Evans, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr y Pumping Marvellous Foundation.

Mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn derbyn eu gwobrau ar hyn o bryd, ynghyd â llythyr cymeradwyaeth personol yn esbonio’r rhesymau dros eu dewis.

“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr. Mae gwobrau blynyddol Pumping Marvellous unwaith eto yn arddangos yr unigolion a’r timau rhagorol sy’n angerddol ac yn ymrwymedig, ac yn darparu gofal o safon arbennig i gleifion a’u gofalwyr. Yn ystod blwyddyn mor heriol, mae cynifer o weithwyr proffesiynol wedi gweithio’n galed bob dydd i ddarparu gofal oedd ymhell y tu hwnt i’r disgwyl. Rydyn ni mor ddiolchgar i chi i gyd,” meddai Angela Graves, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y Pumping Marvellous Foundation.