Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs CTM yn creu gwaith celf tanddwr gan ddefnyddio plastig wedi'i ailgylchu

Mae Lowri Impey, nyrs paediatrig sydd wedi’i lleoli yn ward Crwbanod ac Octopws yn Ysbyty Tywysog Siarl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi creu gwaith celf thema o dan y môr wedi’i wneud o gapiau meddyginiaeth IV plastig wedi’u hailgylchu.

Mae'r gwaith celf, a gymerodd tua 18 mis i'w greu, wedi'i wneud o dros 1500 o gapiau meddyginiaeth IV. Mae’n cynnwys crwban, octopws a chregyn môr – sy’n cynrychioli’r enwau newydd ar gyfer wardiau’r adran paediatrig.

Cwblhaodd Lowri ei hyfforddiant yn ystod y pandemig COVID-19, a chafodd ei hysbrydoli i wneud y darn ar ôl gweld fideo o nyrs ITU a oedd wedi achub y capiau IV oddi wrth eu cleifion i greu collage i gofio'r pwysau yr oedd COVID-19 wedi'i roi arno y GIG. I greu'r llun, cafodd gwahanol fathau o feddyginiaethau ei defnyddio gan fod gan y ffiolau gwydr dopiau o liwiau gwahanol.

Dywedodd Lowri: “Ces i fy ysbrydoli i wneud rhywbeth tebyg a chasglu’r capiau IV ar gyfer y feddyginiaeth roeddwn i wedi’i rhoi. Bob blwyddyn mae wardiau Crwbanod ac Octopws yn gofalu am gannoedd o blant a theuluoedd, ac mae pob cap yn cynrychioli amser y mae plentyn wedi cael meddyginiaeth yn fewnwythiennol gan nyrs. Mae rhai o'r meddyginiaethau hyn yn newid bywydau a thrwy gael llun i atgoffa staff ac eraill bod y gofal y mae'r GIG yn ei ddarparu.

“Os edrychwch yn ofalus fe welwch fod yna gylch llawn ar batrwm cregyn y crwban. Mae hyn i gynrychioli'r ffaith bod y gofal a ddarparwn yn barhaus, rydym i gyd yn gweithio fel un tîm. Yn ogystal, yn y gwaith celf mae lefelau a dyfnder lluosog i greu persbectif o fod yn y cefnfor. Er bod yna haenau na ellir eu gweld, nid yw'n golygu nad ydyn nhw’n bwysig. Mae hyn yr un fath â holl aelodau'r tîm paediatrig, o staff nyrsio, meddygon, myfyrwyr, staff gweinyddol, gweithwyr cadw tŷ ac arlwyo. Mae pob aelod yn cael effaith ar ein plant a'u teuluoedd.

“Mae ail-defnyddio y capiau meddyginiaeth hyn wedi eu hatal rhag cael eu taflu. Nod CTM yw lleihau ein hôl troed carbon gan ddefnyddio'r 5 R sef Refine, Reduce, Reuse, Repurpose a  Recycle (Mireinio, Lleihau, Ailddefnyddio, Ail-bwrpasu ac Ailgylchu). Trwy ailbwrpasu un peth bach yn yr ardal paediatrig, rydw i wedi helpu i leihau gwastraff plastig a allai ddod i'r cefnfor ac effeithio ar fywyd y môr.

“Ers i’r gwaith celf fod yn gyhoeddus, rydyn ni wedi derbyn cymaint o adolygiadau cadarnhaol. Mae rhai pobl wedi cael eu syfrdanu gan y ffaith y gall rhywbeth cyffredin fel cap plastig gael ei ddefnyddio i wneud rhywbeth mor greadigol â hyn.”

12/06/2024