Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud y penderfyniad ar y cyd i beidio ag agor canolfan frechu gymunedol yn Aberfan.
Fodd bynnag, yn dilyn ymweliadau â’r safle ac archwiliadau diogelwch, daethpwyd i'r casgliad nad yw'r lleoliad yn addas ar gyfer canolfan frechu, oherwydd anawsterau wrth storio'r brechlynnau yno.
O fewn yr ychydig wythnosau nesaf, bydd canolfannau brechu cymunedol y Bwrdd Iechyd yn dechrau cynnig brechlynnau Pfizer a Rhydychen yn ystod clinigau ar wahân, ac yn ogystal â'r materion storio, ni fyddai'r hyblygrwydd hwn wedi bod yn bosibl yn y lleoliad arfaethedig yn Aberfan.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad BIP Cwm Taf Morgannwg, Clare Williams:“Nid yw’r penderfyniad hwn yn adlewyrchu dim ar y lleoliad yn Aberfan, ond hwn oedd y casgliad y daethom ni iddo ar y cyd gyda’n cydweithwyr yn yr awdurdod lleol, oherwydd cymhlethdod storio’r brechlynnau yno a’r gallu i newid rhwng brechlynnau yn ddiogel.”
Y ganolfan frechu gymunedol bresennol ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal CBS Merthyr Tudful yw Canolfan Hamdden Merthyr Tudful.
Dywedodd Clare Williams: “Rydw i wir eisiau sicrhau pawb sy'n byw yn ardal Merthyr Tudful na fydd y penderfyniad hwn yn effeithio dim ar gyflymder y rhaglen frechu mewn unrhyw ffordd.
Byddwch yn dal i allu cael eich brechiad yr un mor gyflym ag o’r blaen, gyda'n partneriaid yn y trydydd sector, rydym yn bwriadu gwella’r cymorth o ran trafnidiaeth sydd ar gael, i'w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gyrraedd Canolfan Frechu Gymunedol Merthyr Tudful.
“Mae gan ein canolfan frechu bresennol ym Merthyr yr opsiynau storio iawn a’r gallu i gynyddu nifer y brechlynnau y gallwn ei rhoi yno, os bydd angen.
“Ond fel y mae, rydym ni’n rhoi ail ddosau i grwpiau blaenoriaeth 2 a 4 yn y ganolfan frechu gymunedol ar hyn o bryd, a bydd llythyrau’n cael eu hanfon yr wythnos hon i gynnig dosau cyntaf i grwpiau 7, 8, a 9.”
Nod BIP Cwm Taf Morgannwg yw brechu pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 5 i 9, sef rhyw 120,000 o bobl ledled Cwm Taf Morgannwg, â’u dos gyntaf o leiaf erbyn canol mis Ebrill, wedyn pob oedolyn erbyn diwedd Gorffennaf.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar raglen frechu BIP CTM, ewch i'r tudalennau am frechiadau ar wefan CTM: Gwybodaeth am y brechlyn rhag COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae hyn yn cynnwys diweddariad statws ar bob un o'r grwpiau blaenoriaeth 1 i 9.