Diolch i ymdrechion pawb yn ein hardaloedd, mae cyfraddau COVID-19 wedi lleihau yn ein cymunedau a’n hysbytai ledled CTM.
O ganlyniad, mae’n braf gennym ni lacio’r cyfyngiadau ymweld ar draws ein gwasanaethau mamolaeth.
O ddydd Sadwrn 19 Chwefror, bydd partneriaid geni, neu unigolion enwebedig, yn gallu dod i bob apwyntiad cyn-geni. Yn ogystal â hynny, bydd un person yn gallu ymweld â’n wardiau cyn-geni ac ôl-geni am sesiynau dwy awr a hanner bob dydd.
Yn ystod y geni, bydd partneriaid geni’n gallu bod yn bresennol yn ystod asesiadau o’r geni ac yn ystod pob triniaeth neu archwiliad sy’n digwydd mewn ystafell sengl. Pan fydd menyw yn barod i roi genedigaeth, bydd partner geni’n gallu aros yn ei chwmni trwy gydol y broses nes bod y fam newydd a’r babi’n cael eu trosglwyddo i’r ward.
Mae modd ymweld â’r wardiau cyn-geni ac ôl-geni am fwy o amser fel bod menywod yn gallu cael mwy o gymorth gan eu partner geni neu unigolyn enwebedig ar yr adeg bwysig hon.
Rhaid i bob ymwelydd gadw’r pellter cymdeithasol sydd wedi ei argymell (1m) a bydd angen gwisgo masg drwy gydol yr ymweliad.
Rhaid i ymwelwyr â’r clinig cyn-geni a’r wardiau gymryd prawf llif unffordd cyn ymweld a pheidio â dod os ydy’r canlyniad yn bositif. Bydd gofyn hefyd i ymwelwyr gwblhau rhestr wirio am COVID-19 cyn dod i mewn i’r clinig neu’r ward.
Meddai Sarah Fox, Pennaeth Bydwreigiaeth BIP Cwm Taf Morgannwg, “Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n llwyr yr effaith mae’r cyfyngiadau ar glinigau cyn-geni wedi ei chael ar gynifer o’n teuluoedd yn ystod y pandemig. Mae gan bartneriaid geni rôl hynod o werthfawr o ran rhoi cymorth i fenywod yn ystod y beichiogrwydd a’r profiad geni.
“Diogelu a gofalu am ein menywod a babanod, yn ogystal ag am ein staff, yw ein prif flaenoriaeth bob amser, ac mae’r holl gyfyngiadau a mesurau roddwyd ar waith drwy gydol y pandemig wedi bod yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n dod i’n hunedau a’n gallu i sicrhau diogelwch pawb.
“Diolch i waith caled pawb yn ein cymunedau, ac yn unol â’r newidiadau o ran ymweld ar draws ein safleoedd, mae’n braf gennym ni groesawu partneriaid yn ôl i’n clinigau cyn-geni ac ymestyn y sesiynau ymweld â’n wardiau cyn-geni ac ôl-geni. Fel Bwrdd Iechyd, rydyn ni’n parhau’n rheolaidd i asesu pob cyfle i lacio rhagor o gyfyngiadau i bartneriaid a theuluoedd.
“Diolch i’n holl deuluoedd am eu dealltwriaeth ac am weithio gyda ni yn ystod cyfnod eithriadol o heriol.”