Mae murlun newydd bywiog wedi'i ddadorchuddio yng Ngardd Goffa'r Pili-pala yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, gan ychwanegu sblash pwerus o liw ac emosiwn at le sy'n ymroddedig i gofio ac iacháu.
Cafodd y gwaith celf, a gafodd ei greu gan yr artist graffiti lleol Tee 2 Sugars, ei beintio'n wirfoddol yn ei amser ei hun ar ôl i'r elusen William's Embrace helpu i godi arian ar gyfer y deunyddiau a chysylltu gyda fe i rannu’r syniad. Wedi'i hysgogi gan ei cholled ei hun, roedd sylfaenydd yr elusen eisiau gwneud yr ardd yn amgylchedd mwy croesawgar ac mae ei hangerdd a'i hymroddiad wedi arwain at yr ychwanegiad newydd hyfryd hwn. Mae'r murlun yn cynnwys dyluniad pili-pala trawiadol, sy'n symboleiddio trawsnewid, gobaith a chofio. Gweler mwy o waith Tee 2 Sugar yma.
Cafodd y dadorchuddio ei gynnal ddydd Gwener 8 Awst, gyda theuluoedd wedi’u gwahodd i fynychu cynulliad arbennig yn yr ardd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys lluniaeth a gwasanaeth a bendith deimladwy dan arweiniad Prif Gaplan Carolyn Castle, gan gynnig eiliad o fyfyrio a chysylltiad i’r rhai a oedd yn bresennol.
Dywedodd Donna Morgan, Arweinydd Profedigaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Mae’r murlun hwn yn ychwanegiad hardd ac ystyrlon i’r Ardd Pili-pala. Mae'n adlewyrchu cariad a chryfder y teuluoedd sy'n dod yma ac yn anrhydeddu cof y babanod maen nhw wedi'u colli."
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Tee 2 Sugars am ei haelioni ac i’r teuluoedd a wnaeth hyn yn bosibl.”
Clywch fwy gan Carolyn a Donna am yr ardd.
Wrth greu'r murlun, bu gofyn i deuluoedd symud eitemau coffa personol dros dro fel bod lle i beintio. Rydym yn estyn ein diolch diffuant am eu dealltwriaeth ac yn gobeithio y bydd y murlun yn gwella awyrgylch yr ardd fel lle heddychlon ac ystyrlon i gofio.
Dywedodd Tee 2 Sugars:
“Roedd yn anrhydedd cael cais i gyfrannu at le mor arbennig. Roeddwn i eisiau i'r murlun deimlo'n ysbrydoledig ac yn barchus, rhywbeth y gallai teuluoedd gysylltu ag e. Roedd gweld ymatebion y teuluoedd yn gwneud y cyfan yn werth chweil.”
Cafodd Gardd Goffa'r Pili-pala, a agorodd ym mis Awst 2023, ei chynllunio fel lle tawel i deuluoedd sydd wedi colli babi. Mae'n cynnwys cerfluniau o bili-palod, mannau eistedd, a nawr, darn pwerus o gelf sy'n symboleiddio iachâd a chofio.
Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn ysbrydoli mentrau tebyg ar draws safleoedd ysbytai acíwt eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan barhau â'r genhadaeth i greu amgylcheddau cefnogol ac iacháu i bawb.
William’s Embrace
Cafodd yr elusen ei sefydlu gan deulu y bu farw eu mab William yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae'r elusen yn darparu castio dwylo a thraed am ddim i deuluoedd sydd wedi colli plentyn. Ni oedd yr ysbyty cyntaf i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac rydym yn falch iawn o sefydlu partneriaeth â nhw ar y prosiect arbennig hwn.
11/08/2025