Neidio i'r prif gynnwy

Materion ystadau yn Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae gwaith brys ar y gweill yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle darganfuwyd bod dŵr glaw yn gollwng i'r adeilad. 

Er bod staff y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i leihau'r aflonyddwch a achosir gan sawl gollyngiad, mae wedi bod yn angenrheidiol symud rhai cleifion o ardaloedd lle mae nenfydau wedi'u difrodi, a gohirio rhai apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys.  

Dywedodd Gethin Hughes, Prif Swyddog Gweithredu'r bwrdd iechyd: 

“Rydym yn hynod ddiolchgar i'n staff am eu hymateb cyflym i'r mater hwn, ac am sicrhau bod diogelwch ein cleifion yn cael ei gynnal. 

“Roeddem yn ymwybodol bod angen sylw ar y to yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ac roedd gwaith atgyweirio eisoes ar y gweill pan arweiniodd y tywydd garw diweddar at waethygu'r sefyllfa.  O ganlyniad, rydym yn rheoli effaith difrod a achosir i'r nenfwd mewn sawl rhan o'r ysbyty, gan gynnwys mewn rhai ardaloedd sy’n cael eu defnyddio ar gyfer darparu gofal cleifion. O dan yr amgylchiadau hyn, mae cleifion yn cael eu symud yn gyflym ac yn ofalus i wardiau ac ardaloedd clinigol amgen heb eu heffeithio.  

“Er bod y mwyafrif helaeth o wasanaethau yn yr ysbyty yn parhau i weithredu fel arfer, mae'n anochel y bydd rhai cleifion ac aelodau'r cyhoedd yn profi aflonyddwch yn ystod eu harhosiad neu ymweliad. Hoffem ddiolch i bobl am eu cydweithrediad a'u hamynedd hyd yn hyn ac wrth i ni ymgymryd â'r gwaith angenrheidiol i asesu a rheoli'r sefyllfa.” 

Dylai pobl barhau i fynychu apwyntiadau sydd wedi’u cynllunio oni bai bod y bwrdd iechyd yn cysylltu'n uniongyrchol â nhw. Rydym hefyd yn atgoffa pobl y gallant ein helpu yn ystod y cyfnod prysur hwn drwy fynychu'r adran argyfwng dim ond os yw eu cyflwr yn ddifrifol neu'n bygwth bywyd.  

 

01/10/2024