Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd hoffem rannu taith Rhys. Mae Rhys yn intern ar y prosiect SEARCH, Cysylltu i Newid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Aeth Rhys Harris, 25, o fyfyriwr coleg i weithiwr rheng flaen hanfodol y GIG mewn dwy flynedd. Dechreuodd Rhys yr interniaeth a gafodd ei chefnogi gan y prosiect 'SEARCH Cysylltu i Newid ' yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym mis Medi 2018. Yn ystod ei leoliad cyntaf, ymunodd Rhys â'r adran fferylliaeth lle cafodd hyder ar sut i archebu meddyginiaethau ar y systemau fferylliaeth yn ogystal ag ystod o dasgau cyffredinol eraill. Roedd lleoliad Rhys yn yr adran fferylliaeth mor llwyddiannus nes iddo benderfynu y byddai'n aros yn yr un lleoliad drwy gydol ei interniaeth.
Ar ôl i Rhys raddio o'r interniaeth parhaodd i weithio mewn fferylliaeth yn wirfoddol, nes bod swydd wag ar gyfer cynorthwyydd fferyllfa llawn amser ar gael. Cafodd Rhys ei gefnogi gan y prosiect ac roedd yn llwyddiannus yn y cyfweliad ar gyfer y rôl, gan weithio drwy'r pandemig fel cynorthwyydd fferyllfa. Mae Rhys wedi bod yn hanfodol i sicrhau bod cleifion yn yr ysbyty yn derbyn eu presgripsiynau a bod wardiau'n cael y meddyginiaethau angenrheidiol. Er bod Rhys yn cyfaddef ei bod yn heriol gweithio yn yr ysbyty yn ystod y pandemig, mae hefyd yn falch iawn o'r gwaith hanfodol ac angenrheidiol yr oedd yn gallu ei wneud i gefnogi'r GIG ac mae'n edrych ymlaen at symud ymlaen yn ei rôl.
Mae’r Prosiect Cysylltu i Newid yn interniaeth sydd wedi’i chefnogi gan SEARCH yn ysbyty Tywysoges Cymru. Mae’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Cysylltu i Newid, Prosiect DFN SEARCH, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Cwrdd â'r interniaid 2021/2022 yn Ysbyty Tywysoges Cymru Cwrdd â'r Interniaid: Prosiect SEARCH Cysylltu i Newid yn Ysbyty Tywysoges Cymru 2021/2022 - YouTube
Mae prosiect Cysylltu i Newid yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, ELÎT a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Cysylltu i Newid ewch i Cysylltu i Newid