Neidio i'r prif gynnwy

Mae ward y plant yn croesawu awduron lleol

Yn ddiweddar, ymwelodd dau ffrind lleol â ward y plant yn Ysbyty Tywysoges Cymru sydd wedi cyd-ysgrifennu llyfr a rhoi copïau i'r ward. Postmon ac awdur lleol yw David Whistance, ac mae Michael "Moose" Thomas yn gyn-ddrymiwr y band metel lleol Bullet for My Valentine a nawr Kill The Lights.

The Viking Who Couldn't Grow a Beard yw'r cydweithrediad cyntaf a chafodd ei ysgrifennu gan y pâr sydd wedi mynd ymlaen i ysgrifennu tri llyfr arall. 

Diolch i’r ddau ohonoch am y rhodd hael o lyfrau ar gyfer ward y plant. 

Dywedodd aelod o staff ar y ward: “Rydyn ni i gyd yn caru’r llyfrau! Roedd hyn yn syndod gwych i'r plant dderbyn anrheg y llyfrau tra'n sâl ar y ward. Roedd yn ffordd hyfryd o dynnu ein sylw. Dymunwn bob lwc iddyn nhw ac edrychwn ymlaen at y llyfrau nesaf yn y gyfres y maen nhw’n hefyd yn bwriadu eu rhoi i’r ward.”

01/10/2024