Mae partneriaeth a ddechreuodd fel treial tri mis, gyda thimau’r Groes Goch Brydeinig yn cynnig cymorth yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi helpu mwy na 21,800 o gleifion ers mis Rhagfyr 2018.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae staff y GIG a chleifion fel ei gilydd yn gwerthfawrogi’r cydweithio hwn yn fawr.
Mae timau’r Groes Goch Brydeinig yn cynnig cymorth yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac maen nhw’n cydweithio’n agos â staff y GIG i flaenoriaethu anghenion gofal bugeiliol cleifion. Gallai hynny olygu eistedd gyda chleifion ac aelodau o’r teulu tra byddan nhw’n aros, gan sicrhau bod cleifion yn cael digon o ddŵr, darparu blancedi cynnes iddyn nhw, a chyfeirio aelodau o’r teulu at eu hanwyliaid.
Dywedodd Catherine Roberts, y Rheolwr Cyffredinol dros dro ar gyfer Gwasanaethau Acíwt yn yr ysbyty: “Mae’r cymorth cyson gan y Groes Goch yn ein Hadran Damweiniau ac Achosion Brys wedi bod o fudd i staff yn ogystal â chleifion.”
Ychwanegodd Kate Graham, y Rheolwr Gwasanaethau ar gyfer Gofal Acíwt a Brys: “Daeth staff y Groes Goch yn rhan greiddiol o dîm yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn gyflym iawn. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n cleifion. Maen nhw wedi gallu canolbwyntio ar agweddau bugeiliol gofal brys, ac mae’r amser a’r sgiliau gyda nhw i roi cymorth i gleifion a thawelu eu meddwl wrth iddyn nhw aros i gael eu derbyn i’r ysbyty neu i dderbyn triniaeth. Maen nhw hefyd yn gallu mynd â nhw gartref a gwneud yn siŵr eu bod wedi setlo yno.
“Mae’r tîm hefyd yn gallu defnyddio nifer o wasanaethau cymunedol. Yn ystod pandemig COVID-19 yn enwedig, maen nhw wedi gallu rhoi cleifion mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfeillio er mwyn rhoi cymorth iddyn nhw yn y gymuned.
“Gall yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys godi ofn ar bobl, yn enwedig os ydyn nhw’n dost neu wedi cael anaf. Ar hyn o bryd, rydyn ni hefyd yn atal perthnasau ac ymwelwyr rhag dod i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, felly mae rôl y Groes Goch yn bwysicach nag erioed. Mae adborth o’n cleifion wedi bod yn gadarnhaol yn gyson, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cymorth mae’r tîm yn ei ddarparu.”
Dywedodd Dr Matthew Jones, y Cyfarwyddwr Clinigol dros dro ac Ymgynghorydd Meddygaeth Frys: “Mae effaith gadarnhaol y Groes Goch ar yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r cleifion y maen nhw wedi eu helpu yn uniongyrchol. Mae eu cymorth yn galluogi ein staff yn y rheng flaen i ganolbwyntio ar y cleifion sydd fwyaf tost, ac wrth fynd â chleifion gartref maen nhw’n helpu i roi mwy o le i ni allu trin cleifion eraill sy’n dost neu wedi eu hanafu. Diolch yn fawr gan bawb yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys!”
Dros y 2 flynedd y mae’r gwasanaeth wedi bod ar waith yn Ysbyty Tywysoges Cymru, mae gweithwyr y Groes Goch wedi mynd â 587 o gleifion gartref o’r ysbyty.
Dywedodd Emma Dawson, Arweinydd Tîm y Groes Goch Brydeinig yn Ysbyty Tywysoges Cymru: “Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi cydweithio â’r GIG yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys ers i’r gwasanaeth ddechrau, trwy gynnig cymorth ychwanegol i gleifion ac i staff. Mae’r amser gyda ni i eistedd a siarad â chleifion, i wrando ar eu straeon am eu bywyd, cynnig cymorth iddyn nhw ag unrhyw broblemau sydd gyda nhw, a gwella eu lles a’u profiad cyffredinol wrth aros yn yr adran.
“Pan fydd cleifion hŷn yn cyrraedd, byddan nhw’n teimlo’n fregus ac wedi eu llethu. Yn ein profiad ni, mae cymryd yr amser i siarad â nhw o fudd mawr iddyn nhw ac yn tawelu eu meddwl. Mae’r cleifion hŷn yn adnabod arwydd y Groes Goch, ac maen nhw’n ei gysylltu â’r rhyfel. Maen nhw’n hoffi trafod eu cyfnod yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.”
Dywedodd Stanislava Sofrenic, Rheolwr Gweithrediadau’r Groes Goch Brydeinig: “Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi bod yn gefn i bobl mewn argyfwng am 150 o flynyddoedd, ac mae wedi rhoi cymorth i’r GIG ers iddo gael ei sefydlu. Rydyn ni’n ymrwymedig i roi cymorth i staff y GIG yn yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac i wella profiad cleifion, gan gydweithio i wneud cyfnod all fod yn un pryderus iawn ym mywyd rhywun ychydig yn haws ei oddef.”