Neidio i'r prif gynnwy

Mae SilverCloud Cymru yn ehangu drwy lwybr atgyfeirio amenedigol newydd

Mae gwasanaeth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)  Ar-lein GIG Cymru wedi sefydlu llwybr atgyfeirio newydd gyda'r tîm amenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM).

Gall y tîm nawr atgyfeirio rhieni newydd a rhieni sy’n disgwyl at 'Gofod i Les Amenedigol', rhaglen iechyd meddwl ar-lein sy'n seiliedig ar CBT ac wedi'i phweru gan SilverCloud®

Dywedodd arweinydd amenedigol BIPCTM, Jade Beasant: "Mae'n rhaglen hollol anhygoel.

"Mae bod yn rhiant newydd yn dod ag ystod eang o bwysau a gofynion newydd, ond beth sy’n wych am SilverCloud yw y gallwch weithio trwy'r modiwlau yn eich amser eich hun, ac ar drywydd sy’n siwtio chi.

"Dyma ymyrraeth, heb yr holl jargon, sy’n canolbwyntio ar y claf, ar ei gorau."

Mae 30,000 o bobl wedi derbyn cefnogaeth gan SilverCloud Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ers iddo gael ei dreialu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn 2018.

Mae 'Gofod i Les Amenedigol' yn rhoi i rieni newydd a rhieni sy’n disgwyl y sgiliau ymdopi ymarferol ar gyfer rheoli symptomau ysgafn i gymedrol o hwyliau isel, straen a gorbryder, a gellir eu cyrchu ar-lein, unrhyw bryd, trwy ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur.

Caiff cynnydd ei fonitro gan gefnogwyr hyfforddedig, sy'n rhannu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach.

Dywedodd Jade: "Mae'r ffaith bod y claf yn cael cefnogaeth unigol gan yr un person drwy gydol ei daith heb ei ail, ac mae'n golygu eu bod yn llawer mwy tebygol o gwblhau'r cwrs cyfan."

Gall unrhyw un yng Nghymru 16+ oed atgyfeirio at SilverCloud am ddim heb weld meddyg teulu neu ymuno â rhestrau aros.

Mae BIPCTM wedi bod yn atgyfeirio at y gwasanaeth trwy ei dimau Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol a thimau Plant a Phobl ifanc ers mis Ebrill, tra bod yr adran amenedigol wedi bod yn cyfeirio cleientiaid at y gwasanaeth.

Fodd bynnag, dywedodd Jade eu bod yn fwy tebygol o elwa ar gefnogaeth glinigol SilverCloud drwy'r broses atgyfeirio uniongyrchol newydd.

"Pan fyddwch chi’n cyfeirio rhywun, rydych chi’n croesi’ch bysedd ac yn gobeithio eu bod nhw'n mynd i hunanatgyfeirio, ond pan maen nhw'n ceisio rheoli iechyd meddwl gwael, y cymhelliant yna yn aml yw'r peth cyntaf sy'n mynd," meddai.

"Pan rydyn ni'n gwneud yr atgyfeiriad, maen nhw ar ein llwyth achosion ni a gallwn bwysleisio’r pwysigrwydd o gwblhau'r rhaglen."

Dywedodd rheolwr prosiect CBT Ar-lein GIG Cymru, Fionnuala Clayton, bod dau fwrdd iechyd arall i fod i ddechrau atgyfeirio at SilverCloud yn fuan.

"Rydyn ni bob amser yn dweud bod gofalu am eich babi yn dechrau gyda gofalu amdanoch chi, ond rydyn ni'n gwybod pa mor anodd y gall fod i gymryd y cam cyntaf hwnnw a gofyn am help," meddai Fionnuala.

"Weithiau gall atgyfeiriad uniongyrchol sy’n cael eich gwneud ar eich rhan fod yr eiriolaeth sydd ei angen arnoch i ddechrau ar eich taith at deimlo'n well, ac mae gwybod bod y ddau wasanaeth yn cydweithio i'ch cefnogi yn ychwanegu sicrwydd ychwanegol."

 

30/09/2024