Neidio i'r prif gynnwy

Mae sgrinio serfigol yn achub bywydau

Yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol. 

Canser serfigol (ceg y groth) yw'r canser mwyaf cyffredin ymysg merched o dan 35 oed. Gall sgrinio serfigol achub bywydau drwy atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu drwy ei ganfod yn gynnar. 

Mae merched, a phobl â serfics rhwng 25 a 64 oed, yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) y GIG bob pum mlynedd.  

Os ydych yn drawsrywiol, yn anneuaidd neu’n amrywiol o ran rhywedd ac nad ydych yn siŵr pa brawf sgrinio a gynigir i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefannau sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru

Beth i’w ddisgwyl cyn ac yn ystod yr apwyntiad sgrinio 

Pan fydd disgwyl i chi gael eich sgrinio, bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn anfon llythyr gwahoddiad a thaflen atoch yn y post. Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn prawf sgrinio ai peidio. Gall yr wybodaeth a gewch eich helpu i benderfynu a ydych am drefnu apwyntiad.   

Cynhelir y prawf yn eich practis meddyg teulu neu mewn rhai clinigau iechyd rhywiol: 

  • Mae'n golygu cymryd sampl o gelloedd o'r serfics (ceg y groth) gan ddefnyddio brwsh meddal.  

  • Gallwch ofyn am nyrs neu feddyg benywaidd i gymryd y prawf wrth drefnu eich apwyntiad.  

  • Anfonir canlyniadau drwy'r post o fewn pedair wythnos. 

Mae'r prawf yn chwilio am fathau risg uchel o feirws cyffredin iawn o'r enw feirws papiloma dynol (HPV) yn y sampl. Gall y firws hwn achosi i'r celloedd ar y serfics newid, a gall y newidiadau hyn ddatblygu'n ganser ceg y groth os na chânt eu trin. Mae trin newidiadau celloedd yn gynnar yn golygu y gellir atal canser ceg y groth. Mae bron pob achos o ganser ceg y groth yn cael ei achosi gan HPV. Os canfyddir newidiadau, efallai y bydd angen rhagor o brofion neu driniaeth arnoch yn yr ysbyty.  

Mae'n dal yn bwysig mynd am eich sgrinio serfigol hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechlyn HPV.  

Nid yw prawf sgrinio 100% yn gywir. Dylech gysylltu â'ch practis meddyg teulu ar unwaith os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o'r newidiadau canlynol: gwaedu rhwng misglwyf, yn ystod neu ar ôl rhyw neu ar ôl y menopos (ar ôl i'ch mislif ddod i ben); rhedlif anarferol o'r wain neu boen yn ystod rhyw, neu boen cefn neu fol is.  

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio serfigol, cysylltwch â Iechyd Cyhoeddus Cymru, De-ddwyrain Cymru, ar 029 2078 7910 neu e-bostiwch csad.cardiff@wales.nhs.uk 

I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio serfigol y GIG, gan gynnwys ar ffurf Hawdd ei Deall, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

16/06/2025