Mae pum chydweithiwr o BIP CTM wedi cael £40,000 drwy Q Exchange ar gyfer eu prosiect gwella – un o ddim ond tri sydd ar y rhestr fer yng Nghymru.
Mae Q yn gymuned o filoedd o bobl ledled y DU ac Iwerddon, sy'n cydweithio i wella diogelwch ac ansawdd iechyd a gofal. Mae Q Exchange yn un o raglenni ariannu Q. Mae'n cael ei ariannu gan y Sefydliad Iechyd.
Roedd Victoria Wallace, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Phartneriaethau, Andrea Davies, Pennaeth Seicoleg Iechyd Meddwl a Therapïau Seicolegol, Paul Anthony Gimson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwella, Claire Turbutt, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, a Matt Jenkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhanbarthol, wedi cydweithio i gyflwyno eu syniad ar gyfer thema eleni "Sut gallwn ni wella ar draw ffiniau systemau?"”. Nod eu prosiect: "Ymhellach gyda'n Gilydd: Gwella gofal trwy fath newydd o bartneriaeth” yw mynd i’r afael ag amddifadedd yng nghymoedd De Cymru drwy weithio mewn partneriaeth i symud adnoddau’r GIG i gymunedau. Roedd yn un o 127 o gynigion a 30 o brosiectau ar y rhestr fer, ac enillodd drwy bleidlais gymunedol Q Exchange ddiwedd mis Mai.
Mae gwaith yn dechrau yn awr i nodi’r gofynion cymorth gyda’r nod o gyflawni a gwerthuso’r prosiect erbyn mis Ebrill 2025. Darllenwch fwy am y prosiect.
Rhannodd y tîm: “Rydym yn falch iawn ac yn gyffrous iawn ein bod wedi derbyn cyllid trwy raglen Q Exchange y Sefydliad Iechyd i gefnogi ein gwaith yn lleol yn BIP CTM. Nod ein prosiect yw deall sut y gallwn gydweithio'n well ar draws awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol i wella iechyd a lles ein poblogaeth. Bydd bod yn rhan o’r Q Exchange o fudd mawr gan y byddwn yn gallu dysgu o brofiad prosiectau eraill sydd wedi derbyn cyllid yn ogystal â’r adnoddau sydd ar gael drwy’r rhaglen Q Exchange.”
Llongyfarchiadau i Victoria, Andrea, Paul, Claire a Matt.
Mae “Ymhellach Gyda'n Gilydd: Gwella gofal trwy fath newydd o bartneriaeth” wedi'i ariannu trwy Q Exchange gan y Sefydliad Iechyd.
10/07/2024